Tudalen 1 o 1

Cwch o penarth i Weston Super Mare

PostioPostiwyd: Llun 28 Ebr 2008 2:22 pm
gan e-fugail
Oes rhywun yn gwybod os mae'r wasanaeth fferi o Penarth i Weston Super Mare dal i fodoli? methu cael hyd i dim ar y we...

Re: Cwch o penarth i Weston Super Mare

PostioPostiwyd: Llun 28 Ebr 2008 6:52 pm
gan Rhodri Nwdls
Na sdim ferry ceir i'w gael ond mae na longau lle galli di fynd ar droed.

Mae na ymgyrch i gael cat i fynd o Penarth/Minehead a Abertawe/Ilfracombe.

Ma rhain yn gneud tripiau i Weston a Minehead...http://www.waverleyexcursions.co.uk/ Oeddan ni wedi bwriadu mynd ar un i Wyl yn Butlins Minehead rhyw dro ond doeddan nhw ddim yn rhedga yn gaea.

I Ynys Echni faswn i'n hoffi mynd rhyw dro.

Re: Cwch o penarth i Weston Super Mare

PostioPostiwyd: Llun 28 Ebr 2008 9:26 pm
gan mabon-gwent
Rhodri Nwdls a ddywedodd:I Ynys Echni faswn i'n hoffi mynd rhyw dro.


Pan oedd milwyr ar yr ynys ro'n nhw'n galw'r lle "Punishment Island", wedi mynd yno, dwi'n gallu gweld eu rheswm :|

Re: Cwch o penarth i Weston Super Mare

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 10:45 am
gan e-fugail
hmmm diolch, fydde nhw'n gadael criw o nytars yn yfad arno?
tydi nhw ddim yn hwylio ar y blydi penwythnos on i eisiau mynd

Re: Cwch o penarth i Weston Super Mare

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 9:18 pm
gan Dili Minllyn
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ma rhain yn gneud tripiau i Weston a Minehead...http://www.waverleyexcursions.co.uk/ Oeddan ni wedi bwriadu mynd ar un i Wyl yn Butlins Minehead rhyw dro ond doeddan nhw ddim yn rhedga yn gaea.


Os byddwch chi'n mynd i Minehead, mae lle yma yn werth ei drio - lle gwely a brecwast digon arferol ond bod y lle hefyd yn academi i bobl ag anableddau dysgu ennill gwahanol sgiliau gwaith.

Re: Cwch o penarth i Weston Super Mare

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 9:28 pm
gan osian
Echni? ddim fanno ath ieuenctid pobol y cwm un haf am wythnos gyfan?
ew odd honno yn wsnos ddiflas.