Sori....rwan dwi'n gweld hwn. Wyt ti wedi bod eto Llefenni?
Os ti'sho mynd i gefn gwlad go iawn,, gei di groeso mawr gan Coldo a Nerrea (Narrea?) yn eu hostel/tafarn/canolfan, mewn pentref bach o'r enw Astitz, tu allan i tref o'r enw Lekumberri (i'r de o Donostia, sori methu cofio'r cyfeiriadau'n iawn). Mae gennyn nhw gysylltiadau ar draws y wlad. Dwi'n meddwl na Astitzkoa ydi enw'r hostel.
Yn yr Hydref mae na wyl o'r enw Nafarroa Oinez
http://www.nafarroaoinez.net , sy fatha Eisteddfod diwrnod a gwyl gerdded mewn un. Gwych! Mae tua 100,000 o Fasgwyr yn mynd yn flynyddol a mae'r elw yn mynd i ysgolion Basgeg. Ti bendant yn mynd i gael blas o ddiwylliant Basgeg yn fan hyn.
Llefydd eraill gafon ni hwyl - Lasaka, Gasteiz (Vitoria), Zugarramurdi. Bariau gwych yn y llefydd hyn.
Heb fod i Bilbo.
Os ti'sho rhifau ffon, cysyllta a
post@sbensh.comHwyl am y tro