Gwyliau yng Ngwlad y Basg - cyngor?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwyliau yng Ngwlad y Basg - cyngor?

Postiogan Llefenni » Iau 05 Meh 2008 8:23 am

Heia wybodusion :)

Dwi awydd cymeryd mantais o brisiau da Stelios, gan hedfan o Fryste i Fiarritz. Dwi awydd trip i rai o gymunedau Basgaidd yr ardal, ond gennai'm clem lle i ddechre. Oes na unrhuwun allan yna efo gwybodaeth am lefydd da i fynd yn Euskal Herria?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Gwyliau yng Ngwlad y Basg - cyngor?

Postiogan eusebio » Sad 14 Meh 2008 9:19 am

Dos i Guernica am ddiwrnod - digon rhwydd ar dren o Bilbao - a dos i'r amgueddfa, mae'r arddangosf yn un arbennig.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Gwyliau yng Ngwlad y Basg - cyngor?

Postiogan Rhys » Sul 15 Meh 2008 8:21 am

Dwi'n meddwl bod dinas Baiona/Bayonne yn fwy Basgaidd (yn ôl iaith ac ymdeimlad) nag yw Biarittz. Dwi'n meddwl, fel yng Nghymru, y pella ei di oddi wrth yr arfordir, yr uwch yw canran sy'n siarad yr iaith. Mae'r map yma ar wikipedia'n awgrymmu bod yr ardaloedd yng ngogeldd Gwlad y Basg (yn Ffrainc) gyda chanran uwch o siaradwyr, na rhannau helaeth o'r wlad sydd yn Sbaen - er mae rhain yn lefydd mynyddig a gyda dim llawer o drefi mawr. Os ti am weld pensaerniaeth arbennig Basgaidd, mae pentrefi Labourd yn le da.

Mae dinasoedd fel Donostia a Bilbo gyda niferoedd uchel o siaradwyr Basgeg, fel sydd yna siaradwyr Cymraeg yn Caerdydd, ond mae'n mynd i fod yn anodd dod ar eu traws. Mae yna clybiau yn ymwneud â cerddoriaeth a chwaraeon Basgaidd yn debygol o ddenu siaradwyr Basgeg, ac y bariau cenedlaetholgar.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwyliau yng Ngwlad y Basg - cyngor?

Postiogan Gai Toms » Gwe 15 Awst 2008 11:42 pm

Sori....rwan dwi'n gweld hwn. Wyt ti wedi bod eto Llefenni?

Os ti'sho mynd i gefn gwlad go iawn,, gei di groeso mawr gan Coldo a Nerrea (Narrea?) yn eu hostel/tafarn/canolfan, mewn pentref bach o'r enw Astitz, tu allan i tref o'r enw Lekumberri (i'r de o Donostia, sori methu cofio'r cyfeiriadau'n iawn). Mae gennyn nhw gysylltiadau ar draws y wlad. Dwi'n meddwl na Astitzkoa ydi enw'r hostel.

Yn yr Hydref mae na wyl o'r enw Nafarroa Oinez http://www.nafarroaoinez.net , sy fatha Eisteddfod diwrnod a gwyl gerdded mewn un. Gwych! Mae tua 100,000 o Fasgwyr yn mynd yn flynyddol a mae'r elw yn mynd i ysgolion Basgeg. Ti bendant yn mynd i gael blas o ddiwylliant Basgeg yn fan hyn.

Llefydd eraill gafon ni hwyl - Lasaka, Gasteiz (Vitoria), Zugarramurdi. Bariau gwych yn y llefydd hyn.

Heb fod i Bilbo.

Os ti'sho rhifau ffon, cysyllta a post@sbensh.com

Hwyl am y tro
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron