Tudalen 1 o 1

Efrog Newydd

PostioPostiwyd: Maw 07 Hyd 2008 9:12 am
gan Lorn
Helo

Dwi a'r wraig yn mynd i Efrog Newydd am 6 noson diwedd wythnos yma. Ni isio neud y stwff twristaidd amlwg i gyd - Ellis a Liberty Island, Empire Statue Building etc. Oes gan bobl unrhyw awgrymiadau o bethau arall gellir ei wneud sydd ddim mor touristy ?

Pa mor ymarferol ydy hi i deithio i rhywle arall tu allan i'r ddinas am y diwrnod? New Jersey? Oes wbeth yno?

Oes unrhyw le fyddai'n debygol o ddangos gem Cymru dydd Sadwrn yno?

Re: Efrog Newydd

PostioPostiwyd: Maw 07 Hyd 2008 10:43 am
gan Dafydd Iwanynyglaw
Mae gan yr Amgueddfa Fetroplitan le ar ben ucha'r ynys - lle mae'r strydoedd yn cyrraedd rhif 212 ac ati - lle mae na gasglaid diddorol iawn o bethau o'r Canol Oesoedd Hwyr a'r Oes Fodern Gynnar (darnau o eglwysi, gwydrau lliw, cerflyniau ac ati). Mi aethom ni ar y bys drwy'r Bronx i'w gyrraedd (tua hanner awr gymerodd hi).

Dos i'r Empire State am 8 yn y nos - does na neb yn ciwio ac mi weli di siap grid y ddinas wedi'w goleuo fyny i gyd. Hefyd, os yno ar ddydd Sul, dos i rywle fel Central Park neu lannau'r East River a jyst sefyll a gwrando ar y distawrydd llethol - bore dydd Sul ydi'r unig fan tawel yn y ddinas.

Tria fynd i un o'r clwbiau comedi oddi ar Broadway. A chael brecwast o grempogau mewn diner.

Re: Efrog Newydd

PostioPostiwyd: Maw 07 Hyd 2008 1:47 pm
gan Lorn
Diolch i ti am hynny.

Yn sicr bydde Clwb Comedi'n dda. Ni'n aros ger Broadway a Times Square felly bydd yn ideal. Ai fano mae'r clwb sydd iw weld ar teledu weithiau gyda rhai o standups gorau America? Di gweld Eddie Murphy, Woopy Goldburg a Steve Martin pan oedden nhw'n ifanc yn neud sioe yn rhywle ar y teledu.

Licio'r syniad o weld yr olygfa o'r Empire State yn y nos. Byddwn ni yno am 6 noson felly hen ddigon o amser i weld pethau dwi'n gobeithio.

Dwi di bod i Manhattan o'r blaen felly byddwn in licio mynd i weld Harlem a'r Bronx tro ma felly wrach gall y daith i'r amgueddfa fynd a ni ffordd yno. Hefo cwmni teithiau es di ar y daith yma neu ar y circuit bus? Subway?

Re: Efrog Newydd

PostioPostiwyd: Maw 07 Hyd 2008 5:46 pm
gan Arthur Picton
Mai werth mynd fyny y Rockefeller Centre. O ni'n teimlo bod o'n well na'r Empire State achos fod o'n fwy agored ar y top a ti'n gallu gweld yr Empire State o fano. Es i fyny yr Empire State yn y nos a'r Rockefeller yn dydd, sicr werth neud un yn dydd a'r llall yn y nos 'sw ni'n ddeud. Ma central park yn werth chweil hefyd a ma ne ryw sw yn canol oedd yn edrych reit dda er na es i yno. Amgeueddfa dda hefyd wrth ymyl central park. Yn y llefydd touristy fues i fwy felly allai ddim awgrymu fawr o ddim byd arall!

Re: Efrog Newydd

PostioPostiwyd: Maw 07 Hyd 2008 8:08 pm
gan Reufeistr
Os ti yna wythnos nesaf alli di fynd i weld Radio Luxembourg yn chwara unai ar y 21st o Hydref yn 'The Delancey' sydd ar Delancey Street, neu ar y 22nd yn 'The Annex' rownd y gornel ar Orchard Street.
I need a re-wind!

Re: Efrog Newydd

PostioPostiwyd: Mer 08 Hyd 2008 8:14 am
gan Lorn
Gutted, fyddai di mynd erbyn hynny.

Re: Efrog Newydd

PostioPostiwyd: Mer 08 Hyd 2008 10:43 am
gan cyfrinair
Os ei di i Harlem, mae'n werth mynd ar y Sul er mwyn mynd i oedfa - i glywed y canu os nag wyt ti'n grefyddol. Yr un mwyaf poblogaidd yw'r Abyssinian Baptist Church, oedfa yn dechrau am 11 y bore.