gan Kez » Sad 03 Ion 2009 11:44 am
Bu Kate Roberts yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Merched yn Aberdâr. Tipyn o dwll yw pobman yng Nghwm Cynon ac nid wyf yn meddwl iddi fyw yno. Ar un adeg, roedd hi’n byw yn Nhonypandy yng Nghwm Rhondda, sydd yn lot poshach a dim ond tafliad carreg o le mae war fi’n byw nawr.
Ceir trysorfa o lenorion o’r gwych i’r gwachul yn y cwm culach na cham ceiliog. Yno sefydlwyd Cylch Cadwgan a oedd yn cynnwys enwogion fel Pennar Davies, J Gwyn Griffiths, Rhydwen Williams a Gareth Alban Davies ac ymysg llenorion eraill mae Kitchener Davies (Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu, Cwm Glo), Bob Eynon (Castell Draciwla, Gwyliau Draciwla) a’r pîd-enwog John Owen (Pam Nhw Duw, Pam Nhw ‘To Duw).