Tudalen 1 o 1

Cartref Kate Roberts

PostioPostiwyd: Sad 03 Ion 2009 2:18 am
gan Merch y Llyn Du
Ble'r oedd Kate Roberts yn byw yn y Cymoedd - ai yn Aberdar? Pwy sy'n byw yn ei thy? A beth am lenorion Cymraeg enwog eraill fu'n byw yn y Cymoedd neu yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Sut mae dod i wybod am eu cartrefi? Oes 'na dripiau beic/tren cyfleus?

Re: Cartref Kate Roberts

PostioPostiwyd: Sad 03 Ion 2009 11:44 am
gan Kez
Bu Kate Roberts yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Merched yn Aberdâr. Tipyn o dwll yw pobman yng Nghwm Cynon ac nid wyf yn meddwl iddi fyw yno. Ar un adeg, roedd hi’n byw yn Nhonypandy yng Nghwm Rhondda, sydd yn lot poshach a dim ond tafliad carreg o le mae war fi’n byw nawr.

Ceir trysorfa o lenorion o’r gwych i’r gwachul yn y cwm culach na cham ceiliog. Yno sefydlwyd Cylch Cadwgan a oedd yn cynnwys enwogion fel Pennar Davies, J Gwyn Griffiths, Rhydwen Williams a Gareth Alban Davies ac ymysg llenorion eraill mae Kitchener Davies (Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu, Cwm Glo), Bob Eynon (Castell Draciwla, Gwyliau Draciwla) a’r pîd-enwog John Owen (Pam Nhw Duw, Pam Nhw ‘To Duw).

Re: Cartref Kate Roberts

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2009 11:49 pm
gan y mab afradlon
O ran siwd mae dod i wbod am eu cartrefi - beth am gysylltu gyda'r papurau bro lleol. mae'u manylion cyswllt ar safle lleol i mi y BBC. Mae'n bosib bydd rhywun yno'n gwbod

Re: Cartref Kate Roberts

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 5:28 pm
gan Clarice
Bydden i'n meddwl ei bod hi'n bosib cael y cyfeiriad o'r gyfrol Annwyl Kate, Annwyl Saunders - llythyron rhwng y ddau. Mae'r cyfeiriadau arnyn nhw rwy'n credu. Bydden i'n mynd i edrych fy hunan ond mae fy llyfrau i gyd mewn bocsys ar hyn o bryd. :(

Re: Cartref Kate Roberts

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 10:27 pm
gan GutoRhys
Dwi'n gwybod lle mae y ty yr oedd hi'n byw ynddo yn y gogledd. Ti ffansi reid fyrr i fyny ar dy feic i Ddinbych?

Ol nodyn - ardal llawer yn fwy hyfryd (dyna'r gwir reswm nath hi symud)