Helo
Dwi a'r wraig yn mynd i briodas yno ar ddiwedd mis Awst. Oes unrhyw ohonoch di bod yma o'r blaen? Sut le dio? Sut nathoch chi gyrraedd yno? Dio'm yn edrych i mi fel y lle hawsa'n byd i'w gyrraedd - edrych yn ddryd i fynd gyda car ar y ferry o Gaergybi a ma hedfan yn chydig o hassle ond mae'n bosib mynd o Lerpwl i Knock sy'n 40 munud o Sligo o be dwi'n ddallt. Unrhyw syniadau?
Mae'r syniad o fynd ar y HSS fel passenger troed a wedyn dal y tren o Ddulyn i Sligo yn apelio neu mae genai awydd ddreifio i Stranraer yn yr Alban a hwylio i Ogledd Iwerddon, gyrru drwy Gogledd Iwerddon heibio unai Omah neu Enniskillen, dros y ffin mewn i Sligo wedyn adre drwy hwylio o Dun Laoghaire i Gaergybi. Cawn weld
Hwyl