Sligo

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sligo

Postiogan Lorn » Mer 18 Chw 2009 9:25 pm

Helo

Dwi a'r wraig yn mynd i briodas yno ar ddiwedd mis Awst. Oes unrhyw ohonoch di bod yma o'r blaen? Sut le dio? Sut nathoch chi gyrraedd yno? Dio'm yn edrych i mi fel y lle hawsa'n byd i'w gyrraedd - edrych yn ddryd i fynd gyda car ar y ferry o Gaergybi a ma hedfan yn chydig o hassle ond mae'n bosib mynd o Lerpwl i Knock sy'n 40 munud o Sligo o be dwi'n ddallt. Unrhyw syniadau?

Mae'r syniad o fynd ar y HSS fel passenger troed a wedyn dal y tren o Ddulyn i Sligo yn apelio neu mae genai awydd ddreifio i Stranraer yn yr Alban a hwylio i Ogledd Iwerddon, gyrru drwy Gogledd Iwerddon heibio unai Omah neu Enniskillen, dros y ffin mewn i Sligo wedyn adre drwy hwylio o Dun Laoghaire i Gaergybi. Cawn weld

Hwyl
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Sligo

Postiogan Duw » Mer 18 Chw 2009 9:55 pm

Bues i i Sligo ryw 15 blynedd yn ol am y Fleadh. Hitcho trwy Iwerddon ar ben fy hun o ni. Dechreues gan hwylio i Waterford ac yna gweithio fy ffordd i fyny, trwy amryw o lefydd fel Tipperary, Limerick a Galway. Dweden i fod Galway a phenrhyn Connemara'n hanfodol os wyt yn mynd draw fanna. Pob lwc, cenfigennus.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai