Tudalen 1 o 1

Milan

PostioPostiwyd: Gwe 24 Ebr 2009 3:13 pm
gan Hogyn o Rachub
Pnawn da gyfeillion ac eraill

Dwi a ffrind yn meddwl mynd i Milan mewn pythefnos ar dair noson - oes rhywun wedi bod o'r blaen? Ddim yn gyfarwydd รข'r ddinas o gwbl, er dwisho gweld y gadeirlan enfawr a'r San Siro yn benodol!

Be ydi'r pethau i wneud yno - unrhyw dips? Ydi o'n ddrud iawn (dwi'n cymryd ei fod - a dweud y gwir dwisho gwybod tua faint y dylwn ei gymryd efo fi am dair noson)?

Swni'n gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth!

Re: Milan

PostioPostiwyd: Gwe 24 Ebr 2009 3:56 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
eshi yna ryw chwe mlynadd yn ol, ac oedd la scala di cau ar y pryd (typical) ond 'swn i'n bendant yn mynd i fanno - gymaint o hanas i'r lle, ac i weld llun y swper ola' gan da vinci - neshi rioed ddeall bod gweld y gwreiddiol o waith celf yn gallu cael y fath effaith ar rywun - mae o'n anhygoel, a hwnnw oedd yr hailait, heb os. a'r duomo hefyd, wrth gwrs, ma' hwnnw ar y sgwar mawr lle ma' 'na lot o betha'n digwydd. lle eitha drud eitha cwl eitha cosmopolitan - reit debyg i'r rhan fwya o ddinasoedd yn ewrop 'swn i'n deud. oedd o'n werth mynd, ond 'swn i'm yn mynd yn ol yna, os ti'n deall be 'sgin i. ond wedyn, oni yna efo mam, ac ella bo fi heb gael yr un profiad a gei di hefo ffrind. joia... a cer a digon o bres!!

Re: Milan

PostioPostiwyd: Gwe 24 Ebr 2009 5:38 pm
gan Kez
Fuas i 'na flynydda'n ol pan own i ar flwyddyn bant o'r coleg. Odd da fi'r tocyn 'ma i deithio rownd Ewrop am fis a rhagor. Fi netho i aros ym Milan biti hannar dwyrnod - odd y lle i weld yn shithole ifi - reit debyg i Port Talbot - ond own i heb fynd yn bell iawn o'r dafarn ar bwys y steshon, a gwed y gwir. Sboso bo hi 'n OK os ti'n lico opera a phethach tebyg ond cer i Firenze (Fflorens) - ma'n lot neisiach fan 'ny - blydi brilliant a bod yn onast.

Wedi gweud hwnna, own i ddim yn meddwl lot o Rufain chwaith - falla own i wedi blino :winc:

Re: Milan

PostioPostiwyd: Gwe 24 Ebr 2009 6:23 pm
gan Ray Diota
sori HoR, ond dwinne hefyd yn mynd i weud nad yw'r lle'n all that! clamp o steshon crand, duomo, san siro (jwmpa ar y tram o ganol y dre) ond y teimlad ges i yw bod e'n le mawr a bod popeth yn rhy spread out. treulies i hanner yr amser yn cerdded drwy ardaloedd 'busnes' digon diflas...

wedi gweud 'ny, o'n i yna ar gyfer eidal v cymru ac odd y dre'n sych am y diwrnod, felly o'n i'n eitha pissed off da'r jawled...ac odd hynna cyn i ni golli 4-0...

os ti moyn ffito mewn, pryna shades enfawr, powtia fel posh spice a cerdda rownd y sgwar mawr yn meddwl bo ti'n rial boi...

gei di ddim dy siomi 'da'r bwyd, ddo - bwra mewn i unrhyw hen gaffi/bwyty (fydden i ddim yn trafferth edrych am un drud) a gei di wledd!

Re: Milan

PostioPostiwyd: Sad 25 Ebr 2009 4:34 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Ray Diota a ddywedodd:os ti moyn ffito mewn, pryna shades enfawr, powtia fel posh spice a cerdda rownd y sgwar mawr yn meddwl bo ti'n rial boi...

disgrifiad perffaith o'r profiad o fod yno. oni jyst yn teimlo'n rel cyntri bymp deud gwir.

Kez a ddywedodd:reit debyg i Port Talbot....Sboso bo hi 'n OK os ti'n lico opera a phethach tebyg

ers pryd ma port talbot yn ganolbwynt opera...? :ofn:

Re: Milan

PostioPostiwyd: Sad 25 Ebr 2009 5:04 pm
gan Kez
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:

Kez a ddywedodd:reit debyg i Port Talbot....Sboso bo hi 'n OK os ti'n lico opera a phethach tebyg

ers pryd ma port talbot yn ganolbwynt opera...? :ofn:


Ay Tracsiwt - paid a iwso cut & paste i'm dilorni; wt ti'n newyddiadurwr i 'The Sun' ne be'?

Wetas i bod Port Talbot yn shit hole tebyg i Milano o ran gwedd - own i heb awgrymu bod Port Talbot yn enwog am opera :ofn:

Re: Milan

PostioPostiwyd: Sul 26 Ebr 2009 5:55 pm
gan garynysmon
Fues i yna rhyw 2 flynedd yn ol, a mae rhaid deud, uchafbwynt y trip i mi oedd y tren i Venice am y dydd. Doedd Milan ei hun ddim yn gret, a braidd yn fler. Ond, os ti'n cael cyfle, dos i far Kiribilli (dwi meddwl). Mae perchennog y lle wedi treulio amser yn Aberystwyth, a mae na memorabilia Clwb Peldroed Aberystwyth ar y waliau ac ati. Difyr!

Re: Milan

PostioPostiwyd: Llun 27 Ebr 2009 7:40 am
gan Hogyn o Rachub
Dydach chi ddim yn fy llenwi efo hyder ... ond diolch!