Tudalen 1 o 1

Cyfnewid Ewros

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 12:13 pm
gan Hogyn o Rachub
Helo, fi eto. Dwi'n mynd i Farselona wan. Meddwl oeddwn i a oes rhywun yn gwybod am unrhyw wefannau sydd yn dangos y cyfraddau Ewro ar y funud a chymhariaeth o faint y mae cwmnïau gwahanol yn ei gynnig, neu'n gwybod lle y galla i gael y mwyaf am fy mhres - unrhyw dips?
Jïôlçh

Re: Cyfnewid Ewros

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 12:40 pm
gan Ray Diota
post office yn gneud e am ddim...

ma'r gyfradd gyfnewid bron iawn yn 1 ewro am 1 bunt dyddie 'ma!

sy'n golygu bo fi'n talu pum punt am beint o ginis! (ond sy hefyd yn golygu bod 'y nghyflog i werth 30 y can yn fwy na adeg yma llynedd, os dwi di deall yn iawn...)

sen i ddim yn trafferthu newid arian rili, jyst tynnu lwm gweddol mas o'r ctwll yn y wal pan gyrhaeddi di...

(ti'n mynd i milan A barcelona ne be?)

Re: Cyfnewid Ewros

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 12:45 pm
gan Hogyn o Rachub
Duw, o'n i'n meddwl bod llefydd gwahanol yn cynnig cyfraddau gwahanol. Ond dwi'm yn gwybod lot am deithio, fel rhywun sy ddim yn licio gneud fel arfer.

Na, jyst Barcelona. Ond mi o'n i'n mynd i Milan. Dwi ddim wan.

Re: Cyfnewid Ewros

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 12:56 pm
gan Ray Diota
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Duw, o'n i'n meddwl bod llefydd gwahanol yn cynnig cyfraddau gwahanol. Ond dwi'm yn gwybod lot am deithio, fel rhywun sy ddim yn licio gneud fel arfer.

Na, jyst Barcelona. Ond mi o'n i'n mynd i Milan. Dwi ddim wan.


:lol: ife ni nath newid dy feddwl di...? :wps:

ma llefydd gwahanol yn cynnig cyfraddau gwahanol, ti'n iawn... ma lot o fancie'n codi tal hefyd am y fraint o newid arian. y best bet yw'r post office neu dy fanc personol di...

Re: Cyfnewid Ewros

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 1:05 pm
gan Dwlwen
Ffeindi di'r cyfarddau gorau wrth defnyddio'r teclyn yma: http://travelmoney.moneysavingexpert.com/, Me werth darllen yr erthygl llawn os wyt ti ishe ffeindio mas am gardiau yn ogystal a cash:http://www.moneysavingexpert.com/travel/cheap-travel-money (cerdyn debit Nationwide yn gadael i ti godi arian dramor am ddim tan diwedd mis Mai...)

Wedi gweud hynny, swyddfa bost yw'r opsiwn hawsa am cash weden i - falle nad yw'r cyfradd y gorau un, ond sdim comisiwn a ma fel arfer stoc o ewros 'da nhw tu ôl y cownter, so ti'n cael dy arian whap.

Re: Cyfnewid Ewros

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 1:36 pm
gan Hogyn o Rachub
Ray Diota a ddywedodd: :lol: ife ni nath newid dy feddwl di...? :wps:


Hah! Naci! :D Barcelona oedd y dewis cynta, ond roedd y ffleits i gyd wedi bwcio felly wedi penderfynu mynd ddiwrnod yn hwyrach.

Roedd angen i mi gadarnhau nad ydw i'n penderfynu ar fy ngwyliau oherwydd Barn Maes-e. Wir-yr! :winc: