Tudalen 1 o 1

Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 4:11 pm
gan Hazel
Ogwydd, ga i ofyn cwestiwn? Oes 'na "Rhuddlan" yn Ynys Môn, yn ogystal â'r rhai eraill? Efallai Gastell Rhuddlan yn Ynys Môn? Diolch.

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 4:38 pm
gan sian
Doeddwn i ddim yn gwybod am un - ond mae'n debyg bod chwarel yn Rhuddlan Bach a mast ffôns ar Rhuddlan Fawr ger Bryn-teg. Mae'r rhain yn ymddangos yn llefydd gwledig iawn.

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 5:26 pm
gan garynysmon
Llanrhuddlad?

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 5:39 pm
gan Hazel
Rhuddlan. Roedd Robert of Rhuddlan i fod i wedi byw yn "Anglesley" (yn ôl y stori). Serch hynny dim ond dod o hyd i Rhuddlan yn Ceredigion ar Afon Teifi ac yn Denbighshire ger Afon Clwyd ydw i. Yn ôl yr Gwyddoniadur o Gymru, roedd Robert yn Rhuddlan yn Ceredigion. Mae 'na wrthddywediad yma, efallai?

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 7:05 pm
gan sian
Yn ôl hwn, Rhuddlan sir Ddinbych yw'r Rhuddlan yn ei enw

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 7:58 pm
gan Hazel
Ie. Dw i'n gwybod. Ond, dwi'n gofyn oes 'na "Rhuddlan" yn Ynys Môn. Mae "garynysman" yn byw yn Ynys Môn, dw i'n meddwl. Felly, os nad ydy o'n gwybod "Rhuddlan" yn Ynys Môn, rhaid bod 'na gamgymeriad yn y stori. A ydych chi'n cytuno?

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 9:29 pm
gan sian
Hwn o wefan Cadw yn sôn am Rhuddlan:
Wedi i Wiliam I feddiannu coron Lloegr yn 1066, rhoddwyd rhwydd hynt i'w brif ddilynwyr i greu arglwyddiaethau iddynt eu hunain yng Nghymru. Y mwyaf llwyddiannus ohonynt ar y cychwyn oedd Robert, a gododd gastell tomen-a-beili nepell i ffwrdd o'r castell Edwardaidd. Cafodd Robert ei adnabod fel 'Robert o Ruddlan' a thalai £40 i goron Lloegr am ei feddiant ar ogledd Cymru.


Mae Wikipedia'n dweud ei fod wedi codi castell yn Aberlleiniog sydd yn Sir Fôn ymhlith llefydd eraill.

Felly mae'r 'Rhuddlan' yn cyfeirio at Rhuddlan, Sir Ddinbych ond fe gododd Robert gastell yn Sir Fôn hefyd. Stori'n iawn felly!

(Ac mae 'na ffermydd o'r enw Rhuddlan Fawr a Rhuddlan Bach ym Mryn-teg, Sir Fôn ond does gan y rheiny ddim byd i'w wneud â'r stori)

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 9:59 pm
gan Hazel
O'r gorau. Does dim Rhuddlan yn Ynys Môn ond mae 'na gastell gan enw Aberlleiniog, yr un ger Llangoed, a oedd e'n cael ei adeiladu gan Robert of Rhuddlan. Gywir?

Mae 'na egluro pethau. Diolch i chi.

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 10:17 pm
gan sian
Mewn rhai llefydd, mae'n dweud mai Huw Flaidd, Iarll Caer, cefnder Robert, a gododd gastell Aberlleiniog.
Mewn llefydd eraill, mae'n awgrymu bod y ddau gyda'i gilydd ac mewn rhai llefydd, dim ond Robert sy'n cael ei enwi.

Re: Rhuddlan

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 10:59 pm
gan Hazel
O'r gorau. Rhaid i mi ddysgu pwy oedd Robert. Normanaid, ie, ond mae 'na mwy i'w stori na hynny. 'Sgen i pam oedd William yn rhoi gymaint o dir iddo fo - mwy nag arfer. Roedd 'na eithaf nifer o leoedd o gwmpas Lloegr, ar hyd y Ffiniau ac yn Nghrynu. Cymaint o dir i ddim ond milwr yn syml.

Ah wel. ymchwil dda i mi. Am nawr, nos dawch.