Tudalen 1 o 1

Gwersylla Yng Ngogledd Cymru

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 7:54 pm
gan Dyncoch
Meddwl am be i wneud hefo'r plant dros y gwylia sydd ddim yn rhy gostus, meddwl am wersylla!

Fedrwch chi awgrymu rhywle braf i wersylla yng Ngogledd Gorllewin Cymru, Pen Llyn etc.

Rhywle ger y mor i'r plantos a rhywbeth i wneud yn ystod o y nos.

Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw awgrymiad.

(wedi bod i Ynys y Cregin 'Shell Island' ger Harlech a Dinas Dinlle yn barod).

Re: Gwersylla Yng Ngogledd Cymru

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 8:18 pm
gan Beti
Mae Aberdaron yn neis iawn - ond dwi ddim yn cofio be 'di enw'r gwersyll sori.

Re: Gwersylla Yng Ngogledd Cymru

PostioPostiwyd: Iau 02 Gor 2009 10:51 pm
gan Chickenfoot
Morfa Bychan! Harddwch y traeth a llwythi o henoed Saesneg sydd wedi dod i farw ger y mor.

Re: Gwersylla Yng Ngogledd Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 03 Gor 2009 3:24 pm
gan anffodus
http://www.campsitereviews.com/english/site_000373.htm

Dwyros, jyst uwch ben aberdaron. Hynod neis pan fues i yna chydig yn ôl

Re: Gwersylla Yng Ngogledd Cymru

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 3:10 pm
gan Dyncoch
Diolch yn fawr i chi am eich syniadau. Braf cael holi bobol leol hefo chydig o'r hen 'insider knowledge' ynte. Jyst gobeithio gawn ni'r tywydd yn ol 'wan!