Tudalen 1 o 1

Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Sad 16 Ion 2010 10:23 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Wel, efallai nad oes yna adran briodol ar gyfer yr edefyn yma...Daliwch i ddarllen os gwelwch yn dda!
Yn ol y peth wikipedia 'ma, maint Cymru ydi 20,779 km2 neu 8,022 sq mi tra bod Lloegr yn 130,395 km2 neu 50,346 sq mi...
Rwan ta- mae Cymru, at ei gilydd, llawer iawn mwy mynyddog na Lloegr...
A oes yna ffasiwn beth a maint 3D?? Hynny yw, a yw Cymru yn dal Lloegr i fyny mewn ffordd o fesur arall??
Gobeithio bod fy nghwestiwn yn gwneud synnwyr :wps:

Re: Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Sad 16 Ion 2010 1:36 pm
gan Duw
Gwneud synnwyr - er tipyn o waith mathemategol i'w gyfrifo! Oherwydd nid yw mynyddoedd yn siapau arferol - jest edrych ar y contour lines a geid di weld be dwi'n meddwl. Eto, pa mor fanwl bydde ishe mynd? Pob medr (uchder), Pob 10m? Ma pen tost 'da fi'n jest meddwl amdano fe.

Byddwn yn cymryd yn ganiataol bod yr arwynebedd yn plaen /llinell syth rhwng pob cyfuchlin?

Re: Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Sad 16 Ion 2010 2:44 pm
gan Mwlsyn
Mae map â chyfuchlinau yn gyfystyr â ffwythiant uchder f(x,y) wedi'i ddiffinio dros Gymru gyfan. Y cyfan sydd angen ei wneud i ffeindio arwynebedd `iawn' Cymru yw i integru √(1+|∇f|²) dros Gymru gyfan (gan ddefnyddio cyfrifiadur, wrth reswm). Y broblem yw clogwynau (fel Crib Goch): mae angen gwneud rhain ar wahan i gael atebion synhwyrol.

Dwi'n amau a ydy ∇f yn ddigon mawr dros Gymru er mwyn `dal lan' at Loegr.

Re: Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Llun 18 Ion 2010 2:48 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Diolch yn dalpiau (o Gymru :D ) am y ddwy neges. Mae'r Alban llawer iawn mwy mynyddog (uchder a niferoedd) na Chymru fach. Dwi'n hoff iawn iawn o sbio ar fapiau o Gymru a Phrydain- nid gormodiaith yw dweud fod gan Yr Alban rhyw fath o Hinterland-mae'n brofiad gwych e.e. trafeilio o Ddolgellau i Ddinas Mawddwy neu o Ddolgellau i'r Bala, hefyd crwydro'r Berwyn- ond efallai nad oes gennym Hinterland.Ydi'r Alban yn ddigon 'mawr' i ddal lan hefo Ingyrlynd?

Re: Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Llun 18 Ion 2010 2:59 pm
gan osian
Mae'r ateb yn syml. g'neud model sgêl o brydain, efo pob mynydd a dyffryn ac ati. wedyn rhoi cyfnas fawr wen dros y cwbl, g'neud yn siwr bod y cyfnas yn stwffio fewn i bob cilfach, wedyn torri'r cyfnas o amgylch yr arfordir ac ar hyd ffiniau Cymru, Lloegr a'r Alban, a sythu'r tair cyfnas a gweld pa un di'r fwya'. hawdd!

swni'n dyfalu byddai'r alban yn fwy na lloegr.

Re: Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Llun 18 Ion 2010 3:10 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Difyr Osian. Tybed a oes yna ffasiwn beth a lloeren Americanaidd yn y gofod a fyddai yn gallu cyfrifo maint 'amgen' gwledydd? Cymru Fach a Chymru Mwy...

Re: Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Llun 18 Ion 2010 5:27 pm
gan CORRACH
ffeindiais i hwn jyst trwy gwgl. Ggen i'm syniad pa mor ddibynadwy na chywir ydi o, ond dyma fo run fath:

England is 101,000 sq. km
Wales is 20,800 sq km

The area of England is about 5 times the area of Wales. This means that the average slope of the ground must be arccos(1/5) = 78 degrees for each sq km of Wales to have 5 sq km of surface. Even sheer cliffs are seldom that steep.

Wales highest point is around 1000 m high. If it just had the average slope of the country, the base could only be 400 m across. In reality the base is a few km across, typical of steep mountains.

Simply ironing out the mountains could not make Wales anywhere near the size of England. Some very substantial stretching (to about 3-4 times its size) would also be needed.

Re: Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Llun 18 Ion 2010 7:04 pm
gan Gwion JJ
Yn nhafarn y poets corner ar city road caerdydd, mae'r linell ganlynol wedi ei beintio... (neu rhywbeth tebyg!)
''If wales were to be rolled flat then it would have a larger area than england''

Re: Cwestiwn ar gyfer pobl llawer clyfrach na mi!

PostioPostiwyd: Llun 18 Ion 2010 8:15 pm
gan Josgin
Os ydych yn llunio trawsdorriad o Gymru gan ddefnyddio cyfuchluniau, fe welwch, o ddefnyddio'r gwir raddfa, mai prin iawn yw'r amrywiaeth (mae'r rhai welwch mewn gwerslyfrau daearyddiaeth a daeareg yn amlach na pheidio gyda graddfa fertigol sydd yn wahanol i'r un llorweddol). Petaech yn gosod yr Wyddfa ar ei hochr, ni fuasai'n ymestyn prin dros hanner milltir .
Un peth fusai'n ddiddorol yw mas gwlad. Mae'r creigiau a geir yng Nghymru'n wahanol o ran eu natur , ac felly eu dwysedd. Mae 'mas' mynydd yn gallu effeithio ar y cyflymiad yn ol disgyrchiant (ychydig bach, bach ) , ac felly mae'n bosibl y buasaech yn taro'r llawr yn galetach mewn un lle na'r llall (dim y buasech yn sylwi, cofiwch ) .
Mae chwedl fod Efrog Newydd gyda mas llai yn awr nag oedd ganddo yn nyddiau'r brodorion. Mae mas yr adeiladau yn llai na mas y pridd a gloddiwyd ac a godwyd er mwyn creu sylfeini a thwneli, ayb.