Isio lifft adra? Neu isio'ch achub?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Isio lifft adra? Neu isio'ch achub?

Postiogan Orcloth » Maw 26 Ion 2010 1:59 pm

Do'n i'm yn siwr iawn lle i roi hwn, ond dyna fo...

Darllenais yn y Daily Post bore 'ma fod William of Wales wedi penderfynu ymuno a ni yma ar Ynys Mon - wel, yn RAF Fali a dweud y gwir. Fydd o'n aros yno am tua 8 mis er mwyn dysgu sut i wneud "search and rescue" - nol saeson oddi ar yr Wyddfa, mewn geiriau eraill.

Bydd Wili bach wrth ei fodd yn cael achub ei gyd-saeson oddi ar elltydd mawrion Sir Gaernarfon, a hwnnw'n medru siarad eu hiaith nhw a bob dim.

Be di'r betio rwan, yr eith mwy o idiots i fyny'r mynyddoedd am dro yn eu sandalau, unwaith byddan nhw'n gwybod bod siawns y cawn nhw'u hachub gan Prins Wiliam, a chael lifft adra am ddim (neu well fyth i Ysbyty Gwynedd) mewn helicoptar felyn? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron