Tudalen 1 o 1

Capel Celyn

PostioPostiwyd: Maw 06 Gor 2010 8:17 pm
gan Lorn
Helo

Oeddwn i'n darllen y stori heddiw am Llyn Fyrnwy yn cael ei roi ar y farchnad a'r ffaith bod hen bentref Llanwddyn yn dod i'r golwg o bryd i'w gilydd yn ystod tywydd cynnes ac yn cofio'n nol at fynd am dro i weld Capel Celyn - y bont a sylfeini rhai o'r hen tai a thyddynod ac ati. Oes unrhyw rai yn gwybod os ydy'r pentref mewn golwg eto ar hyn o bryd yn sgil y tywydd sych 'ma? Awydd mynd draw yno am dro dydd Sul os di'n braf.

Diolch

Re: Capel Celyn

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 12:32 pm
gan adamjones416
Ar hyn o bryd dwi ddim yn credu achos er ei fod e wedi bod yn hynod o sych yn ddiweddar mae'r cyflenwad dwr yn y cronfeydd tal hyd at 77% yn llawn, ond sai'n hollol siwr pam na ei di lan i weld ta pini?