Tudalen 1 o 1

Yr Alban

PostioPostiwyd: Sul 03 Hyd 2010 3:06 pm
gan EsAi
Sumai sumai,

Rhywun efo profiad o deithio yr Alban?, meddwl mynd am 'road trip' am riw wythnos fyny arfordir y gorllewin am y gogledd.

Unrhyw argymhellion o lefydd i fynd/ beidio?

Diolch

Re: Yr Alban

PostioPostiwyd: Sul 03 Hyd 2010 3:15 pm
gan osian
EsAi a ddywedodd:Sumai sumai,

Rhywun efo profiad o deithio yr Alban?, meddwl mynd am 'road trip' am riw wythnos fyny arfordir y gorllewin am y gogledd.

Unrhyw argymhellion o lefydd i fynd/ beidio?

Diolch

Ma' Ullapool yn le hyfryd - http://en.wikipedia.org/wiki/Ullapool. Tre' fach ac o fanno mae'r fferi yn mynd i Stornaway. Swni sicr yn argymell mynd yno. Mond 15 oed o'n i pan fuon ni yno, ond swn i licio mynd yn ôl. Ma' tafarn y Ceilidh Place yn edrych yn le bah difyr.

Penrhyn Ardnamurchan yn le golew, ond mymryn yn ddiflas. Mi fydda' fy rhieni ma'n shwr yn argymell ynys Skye.

Re: Yr Alban

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 8:12 pm
gan EsAi
Ir dim osian, mi wneith stop yn sicir, skye yn edrach yn le neis ar diawl fyd. jysd gobeithio am dywydd de

Re: Yr Alban

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 8:15 pm
gan Ramirez
Paid a mynd i Montrose. Os y ysa'r lle yn ddinas, 'swni'n cael ei alw'n Montrosity.
Hen gadach o le.

Inverness yn neis iawn, a mi neshi lecio Oban yn iawn hefyd, ond mond am 'chydig oria'.

Re: Yr Alban

PostioPostiwyd: Maw 05 Hyd 2010 2:48 pm
gan osian
http://en.wikipedia.org/wiki/Montrose_(band)
Duw, dwnim, edrych yn ddigon difyr.

Re: Yr Alban

PostioPostiwyd: Mer 17 Tach 2010 8:52 pm
gan Lorn
Dwi'n nabod rhannau o Orllewin yr Alban yn dda ac yn teithio i fyny i ardal Oban sawl gwaith y flwyddyn. Mae'n ardal hynod braf o ran golygfeydd a fel lle i ymlacio. Mae bywyd nos da iawn a chyfeillgar i'w gael yno hefyd - tafarndai da fel Aulays, Coasters, a 'clybiau' sydd hefo bandiau Albaneg cyfoes a mwy traddodiadol fel y Skipinnish Ceilidh House yn boblogaidd iawn hefo pobl lleol.

Hefyd Fort William awr i'r Gogledd o Oban a mewn 3 awr gelli di yrru fyny'r Gorllewin i Skye sydd heb amheuaeth yn un o'r ardaloedd deliaf yn yr Alban.