Gwesty yng Nghaerdydd
Postiwyd:
Sad 13 Tach 2010 10:12 pm
gan yavannadil
Allwch chi fy nghyngori gwesty da yng Nghaerdydd, os gwelwch yn dda? Os posib, lle siaredir Cymraeg.
Re: Gwesty yng Nghaerdydd
Postiwyd:
Sul 14 Tach 2010 1:09 am
gan sian
Wnaethon ni aros yn Annedd Lon yn Cathedral Road am noson y llynedd. Roedd y perchennog yn siarad Cymraeg.
Dw i ddim yn siwr ydi e'n "westy da" ond mae'n lle gwely a brecwast digon derbyniol.
http://www.anneddlon.co.uk/
Re: Gwesty yng Nghaerdydd
Postiwyd:
Iau 18 Tach 2010 9:40 pm
gan Blewyn
Mae'r Hilton yn ganol dre yn braf iawn....siawns gen i fod ganddyn nhw siaradwr/wrag Cymraeg ar y desg...?