Oes rhywun yn gwybod be ydy, neu ble mae, "Melin y Cwm"? Mae cyfeiriad at y lle ddwy waith yn Adfeilion, pryddest fy nhad T. Glynne Davies, ond fedra i ddim cael hyd i unrhyw fanylion amdano fo ar y We nac yn unman arall.
Mae na bentrefi hefo enwau tebyg yn y De a'r Canolbarth, ond yng nghyd-destun y gerdd mae'n rhaid bod y Melin y Cwm yma yn lleol i fro Llanrwst.
All rhywun helpu?
Gareth