Helo, sut ydach chi ers stalwm?
Fydda'i a'r gwr yn mynd i aros yn y Conrah am ddwy noson mis nesa - oes rhywun arall o'r maes wedi bod yno? Ydi'r bwyd yn ddrud/neis? Ydi'r staff yn siarad Cymraeg? Ydio'n le rhy grand i ni'r "plebs" h.y. ydi'n iawn gwisgo jins a chrys-t i gael bwyd gyda'r nos, ta fydd pawb mewn siwtiau a dillad "posh"? Byswn yn ddiolchgar iawn am unhyw sylwadau am y lle. Diolch!