Tudalen 1 o 1

Gwesty'r Conrah, Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2012 9:14 am
gan Orcloth
Helo, sut ydach chi ers stalwm?

Fydda'i a'r gwr yn mynd i aros yn y Conrah am ddwy noson mis nesa - oes rhywun arall o'r maes wedi bod yno? Ydi'r bwyd yn ddrud/neis? Ydi'r staff yn siarad Cymraeg? Ydio'n le rhy grand i ni'r "plebs" h.y. ydi'n iawn gwisgo jins a chrys-t i gael bwyd gyda'r nos, ta fydd pawb mewn siwtiau a dillad "posh"? Byswn yn ddiolchgar iawn am unhyw sylwadau am y lle. Diolch!

Re: Gwesty'r Conrah, Aberystwyth

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2012 9:20 pm
gan Macsen
Mae'n anhygoel o posh... synnu eu bod nhw'n gadael riff-raff o Ynys Mon ar gyfyl y lle...

JOC!

Dydw i erioed wedi bod, ond mae'n edrych yn weddol posh o'r lluniau ar y wefan. Bydda'n syniad gwisgo crys weddol smart, nid crys-t, ond swn i'n synnu os fyddai unrhyw un yn gwisgo siwt! Mae'r menu fan hyn, stecen yn costio £20.00, ond ddim yn rhy ddrwg fel arall...

Mae yna ddigon o arwyddion Cymraeg o gwmpas y lle ond o ystyried natur cosmopolitan Aberystwyth does dim sicrwydd y bydd y gweithwyr yno'n medru'r iaith...

Re: Gwesty'r Conrah, Aberystwyth

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2012 11:11 am
gan Orcloth
Dydi pobol Mon ddim i gyd yn riff-raff, wsti, ma rhai ohonan ni'n medru byhafio - hyd yn oed mewn llefydd crand!! Dwi'n siwr y gwnawn ni fwynhau esgus bod yn "posh" a ma pres ni'r un fath a rhai pawb arall, tydi! Mae'r lle ddigon drud, ond dwi'n siwr y bydd o werth o.

Diolch yn fawr i ti am roi'r linciau i fyny ac am dy awgrymiadau, handi iawn. Dan ni'n edrych ymlaen yn arw am gael mynd "lawr sowth" eto - gobeithio fydd y tywydd braf yma'n aros am ychydig wsnosau! :D