Tudalen 1 o 1

Hoff westai?

PostioPostiwyd: Llun 18 Meh 2012 3:07 pm
gan Orcloth
Wedi bod yn aros yn y Conrah, Aberyswyth wsnos dwaetha, ac wedi mwynhau'n arw! Cawsom aros mewn "chalet" wrth ochr y gwesty - ystafell fawreddog a swmpus, wir. Digon o le i'r gwely mawr dwbwl, cadair esmwyth, soffa, cwpwrdd droriau, desg, ayyb - a digonedd o le i gerdded o gwmpas ar ben hynny. Ystafell molchi anferth a'r gawod yn gweithio fel tasach chi adra! Yr unig gwyn oedd nad oedd y brecwast llawn yn un da iawn - y pwdin du wedi'i grasu nes ei fod yn galed y bore cyntaf, a bron iawn yn amrwd yr ail fore; a dim ond un sosej ac un darn o facwn oedd ar gael. O, a fedran nhw'm sgramblo wy i safio'u bywyd!

Y lle gorau rioed i ni aros ynddo yw'r Bryn Howel yn Llangollen - yn enwedig os ydych yn aros yn yr hen ddarn o'r gwesty - ystafelloedd mawr hen-ffasiwn, a'r brecwast gorau yng Nghymru (digon o sosej a bacwn i'w gael a rheiny'n ffantastig!).

Oes ganddoch chi hoff westy?