Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 5:16 am
gan mred
Llefydd garw efo grug a chreigiau fel y Rhinogydd ac ardal Nantmor.

I fyny o Hafodydd Brithion heibio Llyn Edno i gopa Moel Meirch. 607 metr yn unig, ond golygfa ddigymar o Gwm Llan ac aruthredd ochr ddeheuol yr Wyddfa, a chribau eang Meirionnydd tua'r de dros Ddyffryn Dolwyddelan. Yna i lawr drwy'r grug di-lwybr am Lyn Gwynant, cyn troi i'r chwith yn ol at lon Blaen Nantmor. Ond nid i'r sawl sy'n casau Rhododendrons! (dyna bwnc arall...)

Wyr rywun sut le ydi'r Berwyn i gerdded?

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 pm
gan Leusa
Pan oni yn yr ysgol gynradd, nath na bobol ddod i'r ysgol i siarad am fywyd gwyllt. Nathon nhw son am y Grugiar ddu oedd yn byw mewn grug a ballu ar y mynyddoedd, a ers hynny dwi ofn sefyll ar un.
Mae'r Aran yn fynydd da i'w ddringo os ewch chi o'r ochr Penllyn, ma na lot o 'fynyddoedd' bach i gyd efo enwa gwahanol cyn cyrraedd y copa, felly os dachi'n nogio cyn cyrradd top ellwch chi wastad deud bo chi di bod ar ben Garth Mawr neu bebynag !

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 6:18 pm
gan Geraint
Mae yna daith cerdded uwchben Ddolgellau sydd efo golygfa gwych o Aber Mawddach ac fyny tuag at eryri, or enw y daith presypis.

Rhodedendrons? YYYYYYYCH!

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2003 7:40 pm
gan brenin alltud
Y Ruddydendrons oedd Twm Elias, Plas Tan y Bwlch yn'i ddeud, neu Rho-dy-din-yn-dy-drons wrth rai :lol:

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 11:01 am
gan Llewpart
Mae'r Berwyn yn hen ddiawl o le oer Mred. Mor ddigysgod ac anghysbell. Cer a chot go lew fo ti. Ma'r Red Lion yn Bala'n le da bnawnie Sul. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 1:08 am
gan barddofydd
ydi ma'r Berwyn yn lle oer anghysbell a digysgod, ond dyna be sy mor wych amdano! Mae ei brydferthwch ei hun yn gadael ei ol ar Eryri, ond nid ydi'r Berwyn wedi'i sbwylio o gwbwl gan lwybrau treuliedig a thwristiaeth. Ma mynydd i mi yn rhywle i ddianc oddi wrth fywyd beunyddiol ac i fod yn fy nghwmni fi fy hun - a ma'r Berwyn yn ideal ar gyfer hynny. Ond mae'n wir nad yw'r llwyni llus a'r twmpathau mawn cyn hawsed i'w troedio a chreigie cadarn Eryri!

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 1:09 am
gan barddofydd
o, a dolig llawen iawn i bawb hefyd!!

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 4:24 am
gan Dylan
I feddwl pa mor hoff 'rydw i o gerdded, mae'n syndod pa mor anaml 'dw i'n ei blydi wneud o.

Wnes i benderfynu 'mod i isio dringo'r Carneddau haf ddiwetha' ma. Erioed wedi'i wneud o'r blaen ac angen rhywbeth gwahanol i'r Wyddfa. Dechrau o Abergwyngregyn, ond erbyn i mi gyrraedd copa Drum ('dw i'n meddwl), 'roedd hi'n llawer rhy wyntog. Yn enwedig gan ei bod hi'n eithaf agored o'r fan honno ymlaen. Felly es i yn ol yr un ffordd.

Biti. Wnai wneud o'n iawn haf nesa' 'ma.

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 8:51 pm
gan mred
Ffordd anniddorol ac anuniongyrchol braidd i ddringo'r Carneddau, pan yn dilyn y trac i fyny beth bynnag. Mi ydw'i'n fwy hoff o'r llwybr sy'n mynd i fyny'r dyffryn crog (Cwm yr Afon Goch) yn syth uwchben Rhaeadr Fawr (Aber). Dyffryn heddychlon diarffordd, efo myrdd o raeadrau bach a phyllau, lle da i ddiogi a drochi dy draed ar dywydd poeth. Oddi yno mae sawl dewis os am barhau tua Foel Grach a Charnedd Llywelyn.

Mae'r llwybr o Gerlan i ben draw Cwm Pen Llafar, yna dilyn Nant Fach (heibio gweddillion awyren) i fyny i'r chwith i'r Ysgolion Duon, ac i ben Carnedd Llywelyn hefyd yn un a ddilynais y llynedd am y tro cyntaf (mae hwn yn un sydd yn llyfr Poucher).

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2004 9:51 pm
gan Hogyn o Rachub
Oeddwn i wrth fy modd yn cerdded Moel Faban o hyd. Dw i ddim wedi gwneud ers meitin rwan ond mae'n fynydd bach hyfryd gyda golygfeydd neis o'r dyffryn.