Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2004 5:15 pm
gan Taflegryn
Un hoff fynyddoedd fi yng Nhgymru ydy Crib Goch a Tryfan am y run rhesymau Norman. On in arfer geneud llawer iawn o fynydda pan on in iau. Un or teithau mwya diddorol nes i oedd fyny un or carneddau ond yn dechrau o ddyffryn conwy ochrau trefriw dwi meddwl. Tua hanner ffordd oedd adfeilion argau a nath chwalu yn y 1910s dwin meddwl, a synnu pa mor denau oedd waliau'r argau. Yn uwch i fyny y dyffryn roedd yna ceffylau gwyllt hefyd. Taith wych.

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2004 9:20 pm
gan Lowri Fflur
Dwi' n meddwl bod sefyll ar ben mynudd yn magic. Mae o' n really nackering i gerdded fynu ond mae o pam ti' n cyradd y top a sbio rownd a chdi a gwrando mae o' n bendant yn werth o. Mae' r teimlad yn arbennig. Dwi' n teimlo yn lot fwy yn rhan o natur ag fatha bod di problemau fi yn ddim yn y byd. Mae o bron iawn yn ysbrydol.

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 5:13 am
gan Mali
Oes Lowri , mae 'na rhywbeth 'magic' ac arbennig am gyrraedd copa mynydd. Finna hefyd wedi cael yr un teimlad a chdi wrth gyrraedd copa Moel Fammau yn Nyffryn Clwyd , ac wrth gwrs Yr Wyddfa.
Yma , ar Ynys Vancouver , dwi wedi cael yr un teimlad ar gopa mynyddoedd sydd yn llawer uwch na mynyddoedd Cymru - ond yr un yw'r teimlad.

'Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd. O ble y daw fy nghymorth. Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd. Yr hwn a wnaeth Nêf a Daear.'

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 11:08 am
gan Mr Gasyth
Moel Fammau a holl fryniau Clwyd yn wych, yn anffodus Yr Wyddfa ydi'r unig fynydd yn Eryri dwi di'w gerdded ond am drio newid hynny'r haf yma.

Beth am glwb cerdded maes-e unrhywun? Ma'r clybiau cerdded y gwn i amdanyn nhw i gyd ar gyfer bobl 'hyn'.

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 5:48 pm
gan Mali
Aled,
Dwi'n cofio mynd ar daith gerdded noddedig ar hyd Fryniau Clwyd pan oeddwn yn yr ysgol. Pawb ohonom , yn ddisgyblion ac athrawon yn trafeilio mewn bysys dybl decar i Afonwen. Wedyn , dechrau'n taith gerdded i fyny'r lôn fechan tuag at Moel y Parc. Gwneud ein ffordd yn eitha hamddenol wedyn tuag at gyfeiriad Moel Fammau , ac i lawr i'r lle parcio , lle 'roedd y bysys yn disgwyl amdanom. Diwrnod hynod o braf, a Dyffryn Clwyd yn ei ogoniant. Taith i'w chofio!

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 2:50 pm
gan mred
Aled a ddywedodd:Beth am glwb cerdded maes-e unrhywun? Ma'r clybiau cerdded y gwn i amdanyn nhw i gyd ar gyfer bobl 'hyn'.

Ella 'mod i braidd yn drist/meudwyaidd, ond at ei gilydd mae'n well gen i gerdded ar ben fy hun.

Er ei bod yn braf cael cwmpeini weithiau wrth gwrs, mi rydych hefyd yn amsugno llai o'r awyrgylch a'r golygfeydd, gan eich bod yn aml yn rhy brysur yn sgwrsio/malu cachu, neu'n ymdrechu'n lew i beidio â gadael i'r person arall achub y blaen.

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2004 8:00 pm
gan Geraint
Cywilydd, cywilydd, cywilydd, cwyilydd, mi o ni heb ddringo yr un fynydd y flwyddyn yma. Ond ma pum diwrnod yn yr alps wedi ail-danio fy awch i ddringo mynydd BIG TIME! O am gael gwared ar diogrwydd ma sydd yn fy nal fi yn y ddinas yn lle fod allan yn yr ysblennyddwch mynyddig. Dwi'n addo wnai adrodd sawl daith gerdded fan hyn dros y misoedd nesaf.

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2004 8:19 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
ma dy amseru'n wych, geraint.

taith copaon taith copaon taith copaon taith copaon taith copaon taith copaon taith copaon

PostioPostiwyd: Llun 30 Awst 2004 5:37 pm
gan Geraint
Wedi bod fyny Pen-y-Fan heddiw. Poeri glaw a cymylog ar y top, ond diwrnod da. Ma'n rhaid i mi ffeindio mynyddoedd eriall yn y Bannau i ddringo nawr, dwi wedi gor-wenud Pen-Y-Fan. Unrhyw awgrymiadau?

PostioPostiwyd: Sad 04 Medi 2004 8:44 pm
gan Gwilym Cilgwri
Wel rydwi wedi bod i fynu pob Nuttall yng Nghymru so there - heb law y rhai yn y De sydd ddim yn cyfri.
Y gorau - Cribin Nantlle, pedol y Berwyn o Gwm Maen Gwynedd, Moel Eilio a Moel y Cynghorion ty'n ol i Lanberis. Pumlumon wedi cael ei ddifethaf gan y blydi ffermydd gwynt.
Ond y gorau i gyd ydi Mynyddoedd Sir Fon!