Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Iau 28 Medi 2006 4:01 pm
gan Jeni Wine
Newydd ddod ar draws Clwb Mynydda Cymru

Edrach yn ffordd wych o ddechra mynd i'r arfar o ddringo mynyddoedd a dod i nabod pobl wahanol. Unrhyw un wedi bod ar un o'r teithiau efo nhw?

PostioPostiwyd: Gwe 29 Medi 2006 9:36 am
gan Norman
Jeni Wine a ddywedodd:Unrhyw un wedi bod ar un o'r teithiau efo nhw?

Do, lot fawr pan yn iau, cerdded rhanfwya, ond wedi neud ambell ddringfa 'fyd. Lot o hwyl i gael yn sgwrsho ayyb. Swni'n argymell mynd ar daith - cym olwg ar y rhaglen!

PostioPostiwyd: Gwe 29 Medi 2006 9:56 am
gan khmer hun
Mae'n blydi anodd trefnu mynd i fynydda'ch hun. Wastad fi, neu rywun arall yn rhy hyngofyr, yn newid'u meddwl neu'n ffaelu ffeindo'r Helly Hansens. Mae'r Clwb Mynydda'n temto'n aml; dylwn i roi go arnyn nhw.

Y quick-fix gorau ar b'nawn Sul yw Tre'r Ceiri - 3/4 awr o gerdded o'r llecyn parcio jyst ar gyrion Llithfaen a golygfeydd heb eu hail ac awyrgylch ysbrydol yr hen gytiau Gwyddelod ar y copa.

PostioPostiwyd: Gwe 29 Medi 2006 5:23 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Geraint a ddywedodd:Wedi bod fyny Pen-y-Fan heddiw. Poeri glaw a cymylog ar y top, ond diwrnod da. Ma'n rhaid i mi ffeindio mynyddoedd eriall yn y Bannau i ddringo nawr, dwi wedi gor-wenud Pen-Y-Fan. Unrhyw awgrymiadau?


Ethon ni i Grug Hywel (Crickhowell) benwythnos cyn dwytha. Neis iawn a deud y gwir. Roedd y daith mewn rhyw lyfr cerdded oedd ganddon ni. Cychwyn o'r maes parcio, i fyny'r allt a throi i'r chwith, ac yna dilyn arwyddion llwybr cyhoeddus i fyny'r mynydd (Crug Hywel/Table Mountain). Mi gollon ni'r llwybr braidd ar y ffordd lawr, a gorfod brwydro drwy redyn talach na fi... 8)

PostioPostiwyd: Sad 30 Medi 2006 12:02 pm
gan nicdafis
Wedi bod yn dawel dros yr haf, ond mae <a href="http://mynydda.com/">mynydda.com</a> yn flog ar y cyd i bobl sy'n hoffi eu mynyddoedd. Cwpl o faeswyr sy'n gyfrifiol amdano. Neb chi wedi clywed amdanyn nhw.

PostioPostiwyd: Sad 30 Medi 2006 12:53 pm
gan Jamie
Oes rhywun yma wedi dreingo mynyddoedd y Preselau? Golygfa ysblenydd i gael o'r mynyddoedd yna.

PostioPostiwyd: Maw 10 Hyd 2006 11:25 am
gan Gwyn Eifyd
dwi 'di bod i fyny nifer o fynyddoedd Eryri, a hefyd wedi cerdded chydig yn Seland Newydd, Y Pyrenees ag Alpau'r Swisdir - a Tryfan ydi fy hoff fynydd dal i fod.

Mae 'na lyfr da ar gael gan Dafydd Andrews o'r enw Cant Cymru - sef y cant copa uchaf yng Nghymru. Fel rheol dwi ddim yn ffan mawr o rhestrau fel hyn, ond mae'r llyfr 'ma wedi fy ysbrodoli i fynd i rhannau o Cymru dwi ddim 'di bod iddyn nhw o'r blaen, fel y Mynyddoedd Du. mis diwetha o'n i ar ben Lord Hereford's Knob!

PostioPostiwyd: Maw 10 Hyd 2006 4:50 pm
gan Y Celt Cymraeg
Moel Penamdden uwchben Llyn Barlwyd yn nhopia Stiniog. Golygfa wych !