Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Sad 06 Rhag 2003 10:48 pm
gan eusebio
Darllena'r seiat arabiata - mae 'na rai ohonnym sydd wedi teithio ymhellach nag Ibiza ;)

gwir

PostioPostiwyd: Sad 06 Rhag 2003 10:53 pm
gan Arabiata
wrth gwrs ond nid y mwyafrif. Dyna fy mhwynt

PostioPostiwyd: Sad 06 Rhag 2003 11:12 pm
gan nicdafis
Beth yw dy bwynt, yn gwmws? Bod y mwyafrif o'r Cymry ddim yn aelodau maes-e, neu eu bod nhw'n cael gwyliau diflas?

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 7:41 pm
gan Macsen
Arabatia a ddywedodd:gormod o ffycin gymry dim ond yn mynd i ibiza a costa del sol; neu ma'r josgins yn mynd i dwll din seland newydd a awstralia i gneifio. Dyna'r cwbl. Prin iawn ydi'r cymry cymraeg sydd efo'r gyts i fynd i rywle gwahanol. Yden, dan ni'n ambassadors gwarthus.
sos chili a tomato


Bloycs llwyr. Swn i'n dweud fod digon o gymru sy'n gallu fforddio gwneud hynny yn teithio mor bell a bo bosib. Ond mae packadge holidays i Ibiza yn llawer rhatach.

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 7:51 pm
gan RET79
Mae teithio yn over rated. Mae llawer o bobl yn teithio i wlad heb wybod fawr ddim amdani ac yn dod yn ol yn gwybod ddim llawer mwy. Fuaswn i ddim yn ymweld a gwlad arall am y diwylliant heb ddarllen fyny lot am y wlad a'i phobl.

Well gen i joio yn Ibiza, Tenerife am rwan.

Dwi'n gwybod am amryw sydd wedi mynd i deithio ond fedra i ddim gweld faint yn union mae nhw wedi elwa o'r profiad. Llawer yn ei wneud o er mwyn cael dweud wrth bawb "I've been travelling". Fy ymateb i yw "Big deal".

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 7:58 pm
gan huwwaters
Ai, dwi di teithio lot, ac ar y cyfan mae o di bod yn brofiad. Lot o hwyl hefyd, a chi'n dysgu lot os da chi'n mynd ymhellach na'r gwesty.

Os chi'n gallu teithiwch yn Business neu First class. Gofynwch os oes seti gwag pan chi'n mynd ar yr awyren.

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 8:13 pm
gan Macsen
Piti dy fod ti'n teimlo fel yna RET. Dwi'n dysgu lot o fynd i wledydd eraill, a does dim posib dysgu dim rhag y diwylliant heblaw dy fod ti am gerdded o gwmpas hefo dy lygaid ar gau a dy fysedd yn dy glustiau.

Ibiza? Pfff... Yob culture capital y byd.

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 9:56 pm
gan nicdafis
Dw i'n cytuno รข RET i ryw raddau. Mae teithio yn cael ei wastraffu ar yr ifanc. ;-)

PostioPostiwyd: Llun 08 Rhag 2003 12:19 am
gan Macsen
Nicdafis a ddywedodd:Mae teithio yn cael ei wastraffu ar yr ifanc.


Dan ni'r ifanc yn gallu gwerthfawrogi pethau mor dda a'r 'hen'. Yn enwedig gan fod ni'n high ar ganj ar y pryd.

overrated?

PostioPostiwyd: Llun 08 Rhag 2003 10:36 pm
gan Arabiata
Mae fyny i'r person ...os 'dio yn fodlon dysgu am wledydd a diwyllianau eraill neu ddim. Nid mater o fod yn overated neu underated ydi teithio. Mae fyny yn union i chdi os ti am fod yn barod i drio sgwrsio gyda'r bobl neu ddim, dy fod yn barod i fynd i ffwrdd o'r mannau twristaidd neu ddim.
Rhaid i chi gyfaddef nad oes yna lawer o Gymry Cymraeg/di Gymraeg yn teithio. Dwi wedi bod mewn ambell i wlad ag erioed wedi gweld bacpacyr o Gymru heb son am facpacyr Cymraeg ond dwi aml yn gweld albanwyr/gwyddelod hyd yn oed Swisiaid, gwledydd bychain ydi'r rhain ond byth neb o Gymru. Wedyn, mae pobl wedyn yn cwyno pam nad oes neb yn gwybod am Gymru, dan ni'n gwybod pam yndyden, ma'r holl Gymry yn ibizia yn ei gwylie saff/hawdd yn cymysgu gyda'r Saeson. S'nam sialens mewn peth felly.
sos tomato a chili