Tudalen 2 o 10

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 12:31 pm
gan Chwadan
1. Ciwba
2. Munich
3. Cefn gwlad de Ffrainc
4. Patagonia/yr Andes
5. Yr Wyddfa
6. Chile (Tierra del Fuego yn benodol)
7. Sisili
8. Rhufain
9. Iwerddon
10. Sweden

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 12:34 pm
gan Macsen
Fela Mae a ddywedodd:ie pam llansanan ??


Yn llansgidiau.

Na, mae o tua 1/5 o'r ffordd rhwng conwy a Aberystwydd.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 1:08 pm
gan Aran
1. Y Wladfa
2. Ynys Enlli
3. Ynys Skye
4. Llydaw
5. Gwlad y Basg
6. St Petersburg
7. ym...
8. byddai hynna'n ddigon. mater o fynd yn ôl i'r lleill wedyn...

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 1:12 pm
gan Di-Angen
1. USA (West Coast)
2. China
3. Gwlad Pwyl
4. Yr Aifft
5. Rhywle yn Central Africa
6. Mexico/Brazil

Dyna'r unig rhai sy'n neidio allan ar y funud.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 1:16 pm
gan fela mae
dwi'n gwbo lle ma fanno - ond pam ti moyn mynd yna ??

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 1:30 pm
gan eusebio
1) Buenos Aires
2) Gwledydd y Môr Tawel
3) Uzbekistan

... dim ond tri sydd ar fy rhestr gan eifod yn newid mor amal!

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 1:33 pm
gan eusebio
cymro1170 a ddywedodd:2. Hong Kong


Gwych o le gyda popeth ar ben ei gilydd.
Os ti'n mynd yno gwna'n siwr dy fod yn bwyta mewn bwytai efo'r pobol leol yn lle'r bwytai i dwristiaid.

cymro1170 a ddywedodd:10. Rwsia


Wedi bod yn Moscow fis diwethaf - gwych o le, hollol, hollol anarcaidd a gyda rhai o glybiau nôs mwyaf gwyllt yn y byd ;)

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 1:39 pm
gan mogwaii
-Rio de janeirio :)
-Awstralia 8)
-New York :o
-Las Vegas :D
--Amsterdam :ofn: :gwyrdd: :crechwen:

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 2:09 pm
gan Gruff Goch
1. Portiwgal (Basdad Rwsiaid)
2. Rwssia (Dial! :crechwen: )
3. Tseina (ar ôl gweld Crouching Thingy, Hidden Wotsit. Gwell mynd cyn iddyn nhw foddi'r holl le Tryweryn-style)
4. Seland Newydd. Wedi cyfarfod dipyn o'r bobl ac roedden nhw'n hyfryd. Ma'r wlad yn edrych yn weddol hefyd...
5. Cael gweld mwy o Wlad Belg, y tafarndai yn enwedig. :D
6. Mynd ar bererindod yn Ne America.
7. Japan
8. India
9. Croesi America mewn convertible (fel yn Fear and Loathing in Las Vegas), efo John Frusciante yn chwarae gitâr yn y cefn.
10. Latvia

Ac ar ôl i fi farw, faswn i'n hoffi cael fy saethu i mewn i'r haul fel 'mod i'n cael dod nôl fel y boi drwg yn Superman 4.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 2:12 pm
gan Fatbob
Fy newis i, heb fod mewn unrhwy drefn arbennig...

1. Seland Newydd mewn dwy flynedd i weld y Llewod a'r wlad a gynhyrchodd Shortland Street.
2. I hela teigrod da hen ffrind o Vietnam ac i yfed poteled arall o'r stwff horrible ma nhw'n gynhyrchu da neidr y tu fewn i'r botel.
3. I aros da ffrind coleg yn Hong Kong.
4. Am heol-drip(road trip?) drwy Ogledd America, dechre yn New York a gyrru i San Francisco fel Kerouack a'r ffotograffydd Robert Frank.
5. Ciwba i yfed Rum a smygu cigars ac i fynd am reid yn yr hen geir Americanaidd.
6. Rwsia yn y gaea, St Petersburg a Moscow yn galw.
7. Am drip o amgylch Cylch yr Artig - Alaska, Canada, Rwsia, Norwy, Sweden, Greenland, Finland a Gwlad yr Ia. (A yw hynny'n cheato? Ma hynny'n 8 gwlad i gyd)
8. Tu ol i'r hen leng haearn - Gwlad Tsiec(eto), Romania, Hwngari, Estonia a.y.y.b.
9. Siapan i brynu panties o vending machines ac er mwyn cal profi Karakoe Sex Hotel.
10.Yn ol i'r holl lefydd dwi di bod a dwi isio mynd yn ol iddynt unwaith yn rhagor.