Tudalen 3 o 10

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 2:52 pm
gan iwmorg
1.Patagonia.
2.Ffeinals cwpan y byd pel-dreod gyda Chymru'n bresennol.
3.Efrog Newydd
4.Y Nou Camp
5.Yr Aifft
6.Gorllewin 'Werddon
7.Lle ma'r petha Aztec 'na i gid yn Mecsico.
8.Gloddfa Ganol (eto)
9.Llydaw.
10. Stadiwm Dewi Sant. 8)

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 3:11 pm
gan Rhodri Nwdls
Gruff Goch a ddywedodd:Crouching Thingy, Hidden Wotsit

Crouching Quaver? :P

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 3:36 pm
gan eusebio
Fatbob a ddywedodd:2. I hela teigrod da hen ffrind o Vietnam ac i yfed poteled arall o'r stwff horrible ma nhw'n gynhyrchu da neidr y tu fewn i'r botel.


Mae un o fy ffrindiau gorau newydd ddychwelyd o Viet-nam ac wedi gwirioni'n lân â'r lle.
Mae hi'n bwriadu mynd yn ôl yna yn amal gan sefydlu busnes 'fair trade' a phrynnu nwyddau o'r wlad.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 3:44 pm
gan cymro1170
Gloddfa Ganol (eto)


Be ddiawl ti eisiau mynd i fan yna i??

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 3:48 pm
gan iwmorg
Aru'r lle gau pan o ni'n ifanc, a dwi'm yn cofio pob dim welis i yno pan oeddwn i'n naw oed. Bechod i feddwl ei fod o mor agos i adra.

Ella boi'n destun torri mewn rhyw noson i'n atgoffa fy hun!! :crechwen:

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 4:35 pm
gan cymro1170
hmmm - roedd na ddim llawer yno pan oedd y lle yn agored - rhes o hen dai - a rhiw dwll mawr

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2003 4:40 pm
gan iwmorg
Digon teg, ai llechwadd yn lle ta!!

PostioPostiwyd: Sad 06 Rhag 2003 11:30 pm
gan dihiryn hawddgar
Dim ond tri 'da fi ar y funud,

1) Sisili - hanes ffyrnig, bwyd neis

2) Iwerddon - harddwch naturiol, guiness

3) San Francisco - lleoliad anhygoel, pont goch hir

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 12:12 am
gan eusebio
dihiryn hawddgar a ddywedodd:Dim ond tri 'da fi ar y funud,

1) Sisili - hanes ffyrnig, bwyd neis


Paid a thrafferthu - twll o ynys :(

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 1:13 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Llydaw
2. Patagonia
3. Ciwba
4. India
5. Cwm Rhondda (dim jôc)
6. Yr Amazon
7. Affrica - ar safari
8. Rwsia
9. Ynysoedd y Gorllewin (Yr Alban)
10. Canada