Y 10 Lle Da Chi Eisiau Mynd Cyn Marw:

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dihiryn hawddgar » Sul 07 Rhag 2003 9:59 pm

eusebio a ddywedodd:Paid a thrafferthu - twll o ynys :(




Hoffwn i wybod mwy.
Eagles might soar high but weasels don't get sucked into jet engines - D.Brent
Rhithffurf defnyddiwr
dihiryn hawddgar
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 06 Rhag 2003 11:01 pm
Lleoliad: Talybont

Postiogan mred » Llun 08 Rhag 2003 4:14 am

Mi es i i Sicilia ganol haf, ac mi oedd hi'n llawer rhy boeth, a gormod o draffig, a'r Eidalwyr yn hyper drwy'r nos a chithau eisio cysgu.

Swn i'n awgrymu mynd yn ystod y gwanwyn, teithio ar fysiau lleol, neu - gorau'n byd - mewn car. Fawr o bwrpas cerdded efo bacpac. Rhai agweddau digon diddorol - adfeilion temlau Groegaidd, catacombs Palermo, Etna, teithio drosodd i rai o'r ynysoedd folcanig oddi ar yr arfordir, neu i Sardenia. Roedd rywun oeddwn i'n sgwrsio efo hi heno wrth ei bodd â'r lle, felly mater o chwaeth bersonol ydi hi, mae'n debyg.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Marwolaeth » Llun 08 Rhag 2003 3:39 pm

Dw i wedi cerdded strydoedd Cairo yn ystod newyn, hofran dros Baghdad yn rhyfel y gwlf, cerdded gyda milwyr yn brwydyr waterloo...

Fyswn i'm yn meindio mynd i Awstralia. All unrhyw un drefnu rhyfel?
Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Marwolaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 am
Lleoliad: Ymhobman

Postiogan Siffrwd Helyg » Llun 08 Rhag 2003 9:37 pm

Es i i Sicily hefyd yn ganol mis Awst flwyddyn yma. Cytuno ei fod yn llawer rhy dwym - ond on i'n aros mewn pentref ar lethrau Mount Etna felly odd hi dipyn yn cwlach fana. Lle hollol ffantastic a phrydferth - golygfeydd gwych.

Hefyd yn cytuno am yr Eidalwyr yn hollol hyper yn y nos - athon ni i all night party un noson a aros lan i weld yr haul yn codi dros fynydd Etna - gwych o beth ond hollol shattering bod yng nghwmni'r sicilians ma trwy'r nos!! ARGH!!

Ma nhw gyd off ei pene ar yr hewl tho!!! BLydi hell!! Weles i ddim y fath beth eriod!! (A fi di bod yn Prauge - a on nhw'n uffernol fana, ond wath yn sicily!) Welon ni tua un set o oleuade traffic dros gyfnod o bythefnos o fod na a on nhw jyst yn hollol wyllt!! Pawb yn twtio'r corn bob dwy funud - am ddim rheswm!!

Nes i joio mas draw tho - bydden i'n dweud bod e bendant werth mynd na!
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Bubbly Bee Bops » Maw 09 Rhag 2003 6:03 pm

Well, hoffwn i mynd pobman :winc: ond os eodd rhaid i fi ddewis well dyma siwd fydd e'n mynd.....!
1.New Zealand - well os rhaid fi gweud pam??! Os gwylioch chi'r World Cup - enough said ife!! Mae gen i sbotyn sofft ofnadwy i'r dynion na....yn enwedig y rhai sydd do cwrdd a fi o'r blaen :winc: :crechwen:

2.Australia - achos DUH! Fel zeland newydd mae gen nhw acen prydferth sy'n wneud unrhyw ferch blysho yn llefydd sanctaidd!

3.Iwerddon - sori bois, ond yr acen yw e eto!!! I'm an accent junkie!! Phwoar.... nai unrhywbeth am leprachaun! :winc:

4.America, yn cynnwys y Niagra Falls - so Canada fyd te!

5.Alaska.Oherwydd! Polar Bears....eira....neb o gwmpas....oooooo na romantic...frolico yn yr eira yn porcyn!!!! oooooo!!!

6.Scotland - eisiau rhywun darganfod os taw myth yw e bod nhw'n gwisgo unrhywbeth o dan y kinky kilts na - a fi'n digon hapus gwirfoddoli!

7.iceland - lysh lysh lysh hot baths yn yr awyr agored!!! wawza! fel centre parcs ond neisach i suppose!!

8.Hawaii - grass skirts, hula hula!!!!

9.Thailand/Hong Kong - pryd i rhywun proffesional dysgu fi sut i defnyddio chop sticks yn iawn!!!!

10.Errrrrrrr...........Sai'n siwr!!!! Unrhyw suggestions?!?! Fi'n gwbod....yn breichiau cyhyrog a dwym bachgen rwy'n ffeindio'n attractive iawn!!! Awwww cosy!
BoYs are toYs!
Rhithffurf defnyddiwr
Bubbly Bee Bops
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 95
Ymunwyd: Gwe 21 Tach 2003 12:52 am
Lleoliad: Caerfyrddin (neu'n cuddio yn drar boxers chi) ;p

10?

Postiogan Arabiata » Maw 09 Rhag 2003 6:44 pm

1. Rio i'r carnifal
2. Montenegro
3. Affghanistan ar ol iddi setlo (byth! ma siwr)
4. Efrog Newydd ( i weld ground zero). Dwi am fynd yno ar ol Dolig gobeithio.
5. Columbia efo tanc (rhag ofn)
6. Thailand,Fietnam a Laos.
7. Tseina.
8. Nol i Barcelona a Budapest. cwl.
9. De yr Eidal, Napoli, Sicilia - lle da - werth mynd fyny Etna. Twll o le ydi gogledd yr Eidal.
10. Mexico
11. Nol i israel/Palesteina a Petra ella.

Mae gen i gynlluniau i neud rhyw grand tour o'r mor canoldir (osgoi Groeg). Portiwgal, de Sbaen, Catalunya,Livorno yn yr Eidal lawr i'r de wedyn fyny i slofenia, croatia, montenegro. Tip top.
Arabiata
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Sul 05 Hyd 2003 2:15 pm
Lleoliad: Caernarfon a bob man arall dwi'n landio

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 09 Rhag 2003 8:42 pm

1. Vienna
2. Montana
3. Vancouver
4. Alaska
5. Siberia
6. Ynys Pitcairn
7. Japan. Wastad eisio mynd i Japan, fel mynd 5 mlynedd i'r dyfodol. Aros yn y Capsule Hotel.
8. Chechnya. Ar ol iddi ddistewi yno chwaith. Ond dwi wedi darllen dipyn am yr bobl Chechen, swnio fel pobl diddorol iawn gyda hanes unigryw.
9. Ty Ddewi
10. Ice Hotel Lapland

Arabita, os ti'n mynd i Efrog Newydd. Gwna yn siwr bod ti'n mynd i'r White House Tavern.Tafarn lleol Dylan Thomas. Lyfli o le.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Aranwr » Sad 05 Maw 2005 1:16 pm

1. Alaska
2. Califfornia 8)
3. Gwlad yr Ia
4. Tour o amgylch De America, yn enwedig Periw a Paraguay.
5. Thailand, Cambodia, Fietnam.
6. Canada
7. Efrog Newydd :seiclops:
8. Rhufain
9. French Polynesia
10. Seland Newydd

Mmmm... breuddwydion! Rhyw ddydd, falle.

10 lle gore fi 'di bod so ffar (y tu allan i Gymru, wrth gwrs) - 1. Lesotho, 2. Sweden, 3. Iwerddon, 4. Barcelona, 5. Awstria a'r Almaen, 6. Efrog yn Lloegr, 7. Yr Eidal (ond o'n i'n casau Venice :x ), 8. Llydaw, 9. Sir Gaint, 10. Gwlad Belg.
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan rhy ddiog i cofio fy enw » Sad 05 Maw 2005 3:23 pm

1.amsterdam
2.Awstralia
3.New Zeland
4.Top wyddfa
5.Brazil
6.Cadair Idris
7.Japan
8.Spaen
9.Yr eidal
10.amsterdam un waith eto
Rhithffurf defnyddiwr
rhy ddiog i cofio fy enw
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2066
Ymunwyd: Llun 26 Gor 2004 9:35 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Dai dom da » Sad 05 Maw 2005 5:11 pm

1. Gwlad yr ia
2. Japan
3. Hong kong
4. Y lle na yn iwerddon ble ma'r cerrig na'n sticio lan.
5. Greenland
6. Swistir
7. Eidal dwi'n credu
8. Patagonia
9. Zeland newydd
10. Canada

Gwd 'an.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron