Tudalen 4 o 10

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 9:59 pm
gan dihiryn hawddgar
eusebio a ddywedodd:Paid a thrafferthu - twll o ynys :(




Hoffwn i wybod mwy.

PostioPostiwyd: Llun 08 Rhag 2003 4:14 am
gan mred
Mi es i i Sicilia ganol haf, ac mi oedd hi'n llawer rhy boeth, a gormod o draffig, a'r Eidalwyr yn hyper drwy'r nos a chithau eisio cysgu.

Swn i'n awgrymu mynd yn ystod y gwanwyn, teithio ar fysiau lleol, neu - gorau'n byd - mewn car. Fawr o bwrpas cerdded efo bacpac. Rhai agweddau digon diddorol - adfeilion temlau Groegaidd, catacombs Palermo, Etna, teithio drosodd i rai o'r ynysoedd folcanig oddi ar yr arfordir, neu i Sardenia. Roedd rywun oeddwn i'n sgwrsio efo hi heno wrth ei bodd รข'r lle, felly mater o chwaeth bersonol ydi hi, mae'n debyg.

PostioPostiwyd: Llun 08 Rhag 2003 3:39 pm
gan Marwolaeth
Dw i wedi cerdded strydoedd Cairo yn ystod newyn, hofran dros Baghdad yn rhyfel y gwlf, cerdded gyda milwyr yn brwydyr waterloo...

Fyswn i'm yn meindio mynd i Awstralia. All unrhyw un drefnu rhyfel?

PostioPostiwyd: Llun 08 Rhag 2003 9:37 pm
gan Siffrwd Helyg
Es i i Sicily hefyd yn ganol mis Awst flwyddyn yma. Cytuno ei fod yn llawer rhy dwym - ond on i'n aros mewn pentref ar lethrau Mount Etna felly odd hi dipyn yn cwlach fana. Lle hollol ffantastic a phrydferth - golygfeydd gwych.

Hefyd yn cytuno am yr Eidalwyr yn hollol hyper yn y nos - athon ni i all night party un noson a aros lan i weld yr haul yn codi dros fynydd Etna - gwych o beth ond hollol shattering bod yng nghwmni'r sicilians ma trwy'r nos!! ARGH!!

Ma nhw gyd off ei pene ar yr hewl tho!!! BLydi hell!! Weles i ddim y fath beth eriod!! (A fi di bod yn Prauge - a on nhw'n uffernol fana, ond wath yn sicily!) Welon ni tua un set o oleuade traffic dros gyfnod o bythefnos o fod na a on nhw jyst yn hollol wyllt!! Pawb yn twtio'r corn bob dwy funud - am ddim rheswm!!

Nes i joio mas draw tho - bydden i'n dweud bod e bendant werth mynd na!

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 6:03 pm
gan Bubbly Bee Bops
Well, hoffwn i mynd pobman :winc: ond os eodd rhaid i fi ddewis well dyma siwd fydd e'n mynd.....!
1.New Zealand - well os rhaid fi gweud pam??! Os gwylioch chi'r World Cup - enough said ife!! Mae gen i sbotyn sofft ofnadwy i'r dynion na....yn enwedig y rhai sydd do cwrdd a fi o'r blaen :winc: :crechwen:

2.Australia - achos DUH! Fel zeland newydd mae gen nhw acen prydferth sy'n wneud unrhyw ferch blysho yn llefydd sanctaidd!

3.Iwerddon - sori bois, ond yr acen yw e eto!!! I'm an accent junkie!! Phwoar.... nai unrhywbeth am leprachaun! :winc:

4.America, yn cynnwys y Niagra Falls - so Canada fyd te!

5.Alaska.Oherwydd! Polar Bears....eira....neb o gwmpas....oooooo na romantic...frolico yn yr eira yn porcyn!!!! oooooo!!!

6.Scotland - eisiau rhywun darganfod os taw myth yw e bod nhw'n gwisgo unrhywbeth o dan y kinky kilts na - a fi'n digon hapus gwirfoddoli!

7.iceland - lysh lysh lysh hot baths yn yr awyr agored!!! wawza! fel centre parcs ond neisach i suppose!!

8.Hawaii - grass skirts, hula hula!!!!

9.Thailand/Hong Kong - pryd i rhywun proffesional dysgu fi sut i defnyddio chop sticks yn iawn!!!!

10.Errrrrrrr...........Sai'n siwr!!!! Unrhyw suggestions?!?! Fi'n gwbod....yn breichiau cyhyrog a dwym bachgen rwy'n ffeindio'n attractive iawn!!! Awwww cosy!

10?

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 6:44 pm
gan Arabiata
1. Rio i'r carnifal
2. Montenegro
3. Affghanistan ar ol iddi setlo (byth! ma siwr)
4. Efrog Newydd ( i weld ground zero). Dwi am fynd yno ar ol Dolig gobeithio.
5. Columbia efo tanc (rhag ofn)
6. Thailand,Fietnam a Laos.
7. Tseina.
8. Nol i Barcelona a Budapest. cwl.
9. De yr Eidal, Napoli, Sicilia - lle da - werth mynd fyny Etna. Twll o le ydi gogledd yr Eidal.
10. Mexico
11. Nol i israel/Palesteina a Petra ella.

Mae gen i gynlluniau i neud rhyw grand tour o'r mor canoldir (osgoi Groeg). Portiwgal, de Sbaen, Catalunya,Livorno yn yr Eidal lawr i'r de wedyn fyny i slofenia, croatia, montenegro. Tip top.

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 8:42 pm
gan Madrwyddygryf
1. Vienna
2. Montana
3. Vancouver
4. Alaska
5. Siberia
6. Ynys Pitcairn
7. Japan. Wastad eisio mynd i Japan, fel mynd 5 mlynedd i'r dyfodol. Aros yn y Capsule Hotel.
8. Chechnya. Ar ol iddi ddistewi yno chwaith. Ond dwi wedi darllen dipyn am yr bobl Chechen, swnio fel pobl diddorol iawn gyda hanes unigryw.
9. Ty Ddewi
10. Ice Hotel Lapland

Arabita, os ti'n mynd i Efrog Newydd. Gwna yn siwr bod ti'n mynd i'r White House Tavern.Tafarn lleol Dylan Thomas. Lyfli o le.

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2005 1:16 pm
gan Aranwr
1. Alaska
2. Califfornia 8)
3. Gwlad yr Ia
4. Tour o amgylch De America, yn enwedig Periw a Paraguay.
5. Thailand, Cambodia, Fietnam.
6. Canada
7. Efrog Newydd :seiclops:
8. Rhufain
9. French Polynesia
10. Seland Newydd

Mmmm... breuddwydion! Rhyw ddydd, falle.

10 lle gore fi 'di bod so ffar (y tu allan i Gymru, wrth gwrs) - 1. Lesotho, 2. Sweden, 3. Iwerddon, 4. Barcelona, 5. Awstria a'r Almaen, 6. Efrog yn Lloegr, 7. Yr Eidal (ond o'n i'n casau Venice :x ), 8. Llydaw, 9. Sir Gaint, 10. Gwlad Belg.

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2005 3:23 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
1.amsterdam
2.Awstralia
3.New Zeland
4.Top wyddfa
5.Brazil
6.Cadair Idris
7.Japan
8.Spaen
9.Yr eidal
10.amsterdam un waith eto

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2005 5:11 pm
gan Dai dom da
1. Gwlad yr ia
2. Japan
3. Hong kong
4. Y lle na yn iwerddon ble ma'r cerrig na'n sticio lan.
5. Greenland
6. Swistir
7. Eidal dwi'n credu
8. Patagonia
9. Zeland newydd
10. Canada

Gwd 'an.