Tudalen 7 o 10

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2005 2:37 pm
gan Hogyn o Rachub
Ray Diota a ddywedodd:Rhydd i bawb ei farn, HoR. Ond, er bo fi'n welsh nash go iawn, dwi ddim yn deall Cymry sy'n cyfyngu eu gorwelion drwy fynd i lefydd â chysylltiadau Cymreig/Celtaidd (bron) yn unig. Ma'r Cymry ma sy'n mynd i Lydaw ond ddim i Ffrainc yn mynd ar fy nerfe i gymaint â Saeson sy'n cwyno am ddiffyg Saesneg mewn llefyd... ond na ni:


Ti'n iawn, ond dw i jyst ddim yn berson sydd yn licio teithio llawer, a dw i wedi bod i nifer o lefydd yn barod

(er dw i newydd sylweddoli bod fi 'di ateb yr edefyn 'ma ddwywaith yn dweud lle dwisho mynd ac onisho mynd i mwy o lefydd y tro cyntaf, debyg! :wps: )

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2005 7:26 pm
gan HBK25
MAe Wrestlemania'n ddigwyddiad uffernol o cwl yn ol bob son :crechwen:

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 4:16 pm
gan cajun
Ciwba (Castro)
Bayern (Oom Pa Pa)
Seland Newydd (Arglwydd y modrwyon)
Cairo ( Zamalek v. Al Ahly)
Dubai (Al-Ain - Pêl-Droed safon uchaf)
Shanghai (achos....)
Taj Mahal (ond gyda neb arall yn agos chos ma nhw'n dweud bod e'n fagned i dwristiaid)
Gwlad Thai (The Beach)
Zaragoza (di bod i Barcelona)
Indonesia (Ynys JAVA!!!)

PostioPostiwyd: Sul 22 Mai 2005 8:13 pm
gan carysmiranda
6. Rwsia yn y gaea, St Petersburg a Moscow yn galw.

Hollol gwefreiddiol! Os oes unrhywun yn meddwl ymweld a Rwisa mae'n rhaid gwneud yn y gaea. Mae'n t*t freezing o oer ond mae'r eira yn ychwanegu rhyw elfen o hud at y lle (sy ddigon hudlous be bynnag tho!)

Swn i'n dewis...
Awstralia
Cheina
Gwlad Pwyl
Brasil
Yr Aifft
Portriwgal
Efrog Newydd (di bod yn barod ond swn i'm mynd eto ac eto ac eto!)

PostioPostiwyd: Sul 22 Mai 2005 9:05 pm
gan Cawslyd
Mae ffrind i fi'n cael mynd i Rwsia wsnos nesa'. Dwi mor genfigenus. :wps:

PostioPostiwyd: Llun 23 Mai 2005 10:34 am
gan Sleepflower
1 Barselona
2 Rwsia
3 Croatia
4 Patagonia
5 Mecsico
6 Gwlad y Basg
7 Tseina
8 Canada
9 Gwlad yr Ia
10 Hwylio o gwmpas y byd ar ben yn hunan.

PostioPostiwyd: Mer 13 Medi 2006 3:03 pm
gan S.W.
Dwi am atgyfodi hwn

Dim mewn unrhyw drefn penodol:

1. Teithio o Ddwyrain i Orllewin yr UDA mewn car.
2. Seland Newydd, teithio lawr o'r Gogledd i'r De
3. Skye, wedi bod ar cruise o'r ynysoedd agosach i tir mawr Orllewin yr Alban, isio gweld mwy wan
4. Gweddill yr Outer Hebridies (gan gynnwys Sant Kilda - lle diddorol iawn!).
5. Awstralia
6. Montenegro
7. Srebrenica a Sarajevo yn Bosnia. Wedi bod i Mostar yn Herzegrovnia wythnos diwethaf, isio gweld llefydd eraill yn y wlad wan.
8. Serbia
9. Top y Wyddfa - erioed di bod
10. Rwsia a gweddill y Baltics - Estonia, Georgia, Latvia a Lithuania

o er bod dwi di cyrraedd 10 yn barod dwi isio mynd i'r rhain hefyd:

Gogledd Korea,
Ynysoedd y Falklands
Gibraltar
Gogledd Iwerddon
Ynysoedd y Galapagos
Hawaii
Patagonia

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 11:01 am
gan Y Crochenydd
1. Teithio ar hyd yr afom Mekong (Ffantasi Apocalypse Now)
2. Teithio o Saigon i Hanoi (Vietnam)
3. Angkor Wat (Cambodia)
4. Gweddill Japan (Wedi bod yn Tokyo a Yokohama)
5. San Fransisco
6. Montenegro
7. Tirana (Albania)
8. Moscow
9. Rio
10. Copa'r Wyddfa

Be ffwc dwi'n neud yn aros fan hyn?

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 11:17 am
gan HBK25
1) Efrog Newydd
2) Sweden
3) Mexico
4) Canada
5) Awstralia Zoo - Crikey! :crechwen:
6) Japan
7) Yr Eidal

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 12:03 pm
gan Cymro13
1. Awstralia - in to the Bush :lol:
2. St Petersberg
3. Tokyo
4. Ciwba(cyn i Castro fynd)
5. Buddapest
6. Patagonia - nes i gwrdd a boi o Patagonia cwpwl o flynyddoedd yn ol yn steddfod ac on i'n siarad a fe am ages - dal yn rhyfedd meddwl am berson sydd yn siarad Cymraeg ond methu siarad Saesneg
7. San Fransisco
8. Efrog Newydd - Jyst i ddweud bo fi di bod yna!!
9. Affrica - Unrhywle don't care
10. Y Gofod(Like that's going to happen)

Jyst i bwyntio mas i rhai ohonoch sydd am fynd i'r Almaen - Ma fe'n absoliwtli lysh ond gwneuwch yn siwr eich bod yn mynd i Bafaria - Gallwch chi ddim gwerfawrogi'r Almaen yn iawn tan eich bod di bod i Bafaria