lle 'set ti'n dewis, a pam? a sôn am 'am byth' ydw i yn fan hyn, nid am wyliau...
'swn i'n cael o'n anodd i ddewis rhwng Seland Newydd a Finland.
Seland Newydd oherwydd y pobl, yr ymwybyddiaeth (er bach yn nawddoglyd/cydymdeimladol erbyn hyn) am Gymru, y trefi traeth anhygoel o bert, a'r dolffiniaid.
Finland oherwydd y pobl mwyaf croesawgar i mi gyfarfod erioed, y ffaith bod y wlad yn rhedeg mor hollol anhygoel o effeithiol heb fod yn Almaenig ei naws, y coedwigoedd, y genod stunning, a'r saunas.
Finland yn y pen draw, efallai, gan ei bod yn agosach at Gymru i mi bigo adref weithie...
ac yn drydedd lle, zimbabwe - unwaith mae Affrig yn dy waed, fan'na y bydd hi. gorwelion hurt o eang, rym&coke&rhew yn y p'nawn, pobl hollol hyfryd (pam nad ydynt yn lladd ei gilydd), anifeiliaid annisgwyl ar ochr y lôn, a merlota o dan lleuad llawn...
- ond nid o dan y drefn presennol...