eusebio a ddywedodd:
Mae Scandinafia yn apelio gan fod y gwledydd i gyd yn ymddangos fel bod ganddynt gydwybod cymdeithasol.
aye, ma scandinafia'n lyfli. ges i brofiad gret o fyw yn norwy am gyfnod, o'n i mor impressed da'r lle. ma oslo yn ddinas hyfryd - yn ddiddorol a bywiog a chosmopolitan - a ma'r fjords a'r mynydde a'r eira draw yn y gorllewin yn fwy stunning nag y galle unrhyw 'rough guide' gyfleu. o'dd y bobol ddes i ar eu traws mor gyfeillgar, a doniol - hiwmor eitha tywyll, eironig. ma'r iaith yn bert iawn fyd. a ma da nhw rhyw hunaniaeth anhygoel - ma nhw mor falch o'u diwylliant a'u hanes. dwi'n cofio bod na ar eu dwrnod cenedlaethol nhw, a mi o'dd y dathliade'n anhygoel. pawb off ysgol/gwaith, parades mawr drwy'r strydoedd drwy'r dydd, a piss up drwy'r nos. rhywbeth yn debyg i ddathliade dydd sant padrig y gwyddelod. ddylen ni wir gael dathliade felna ar ddydd gwyl dewi. yr unig draw-back am y lle wrth gwrs yw fod popeth mor uffernol o ddrud na, yn enwedig alcohol. tua £5 y peint fel arfer, ond dwi'n cofio talu £7.50 am hanner unwaith
!
hefyd, er ei fod e'n bach o cliche falle, gorllewin iwerddon, rhywle fel galway neu county kerry, lle ma'r wyddeleg dal i'w chlywed, a lle ma peints o bulmers a rhew yn llifo fel dwr...
(pam nagyn nhw'n gwerthu bulmers yng nghymru?!)
hmmm...