tasai rhaid i chdi fyw y tu allan i Gymru...

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Fatbob » Gwe 05 Rhag 2003 4:35 pm

Y lleuad. Bach yn oer yn gaea ond ma na ddigon o gaws.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 05 Rhag 2003 4:55 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Llydaw, Asturia, Galicia, Corsica...De Orllewin Iwerddon.


Ie, actshiwali, se'n i'n mynd i Ffrainc neu Sbaen, se'n i'n mynd i Lydaw a Chatalonia, fel y byddwn i'n gallu dysgu Llydaweg/Catalaneg 'fyd.
"Wastad yn mynd i Lydaw, byth yn mynd i Ffrainc..."
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan cythralski » Gwe 05 Rhag 2003 5:06 pm

Rhywle ar yr arfordir gorllewinol o Ibiza.

Traethau, tawelwch, prydferthwch, bwyd, gwin a'r machlud gorau welwch chi unrhywle yn y byd.
...and you can tell 'Rolling Stone' magazine that my last words were....
Rhithffurf defnyddiwr
cythralski
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 595
Ymunwyd: Llun 24 Chw 2003 4:44 pm
Lleoliad: Ar goll yn y gofod

Postiogan Al Jeek » Gwe 05 Rhag 2003 5:19 pm

Zeland Newydd. Gwlad hyfryd yr olwg, digon o ddefaid i fy neud i i deimlo'n gartrefol a mynyddoedd efo eira i fi gael eirfyrddio.
Mae sgandinafia yn ddigon tebyg, ond fysa rhaid i fi ddysgu iaith newydd.
Fyswn i ddim yn meindio byw yn America os fysa'r holl americanwyr yn gadael. :winc:
Canada?
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cardi Bach » Llun 08 Rhag 2003 11:01 am

Al Jeek a ddywedodd:Zeland Newydd. Gwlad hyfryd yr olwg, digon o ddefaid i fy neud i i deimlo'n gartrefol a mynyddoedd efo eira i fi gael eirfyrddio.
Mae sgandinafia yn ddigon tebyg, ond fysa rhaid i fi ddysgu iaith newydd.


So bydde ti ddim yn boddran dysgu iaith y Maori te? they can all speak English, can't they?
Dechreuad: Aotearoa - Gwlad y cwmwl hir gwyn, enw cyenfin Seland Newydd.
:)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan brenin alltud » Llun 08 Rhag 2003 11:47 am

Unrhyw le sydd â'i hiaith a'i diwylliant unigryw ei hun. Swn i wrth 'y modd yn rhoi cynnig ar le newydd, tawn i'n gallu gwneud rhyw waith o fudd yna ac yn rhan o'r bywyd cynhenid 'na.

Ond falle nad rhywle sy'n rhy boeth drwy'r adeg, lle ma' gormod o g'nafon fel moscitos ne' bry cops enfawr, blewog yn teyrnasu'n y nos :ofn:

Dwi'n groen gole, gyda chydig o frychni, 'lly swn i'm yn gallu byw o dan haul tanbaid yr Aifft er enghraifft...

Gwlad yr Ia fydde'n gweddu i'r dim, dw i'n meddwl.
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 08 Rhag 2003 12:07 pm

Dwi'n symud i fyw i rwla ym mis Ionawr. Dim ond am 'chydig, ond BYW yno 'run fath - nid gwylia fydd o.
Felly dwi am ddeud fan'na - sef ynys hyfryd yng nghanol yr Indian Oshan (beth yw hyni yn Gym-raeg?...cofio'r joc shit 'na?)
Yn llawn dylanwada o Ewrop, Affrica ac India, yn chwydu tan pob pedwardeg mlynadd, yn tyfu Mangos.. mmmmm, a reit drws nesa' i Mauritius.
Ond mi fydd raid cal siarad ar Maes-e, neu fyddai byth yn siarad Cymraeg! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Al Jeek » Llun 08 Rhag 2003 12:11 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Al Jeek a ddywedodd:Zeland Newydd. Gwlad hyfryd yr olwg, digon o ddefaid i fy neud i i deimlo'n gartrefol a mynyddoedd efo eira i fi gael eirfyrddio.
Mae sgandinafia yn ddigon tebyg, ond fysa rhaid i fi ddysgu iaith newydd.


So bydde ti ddim yn boddran dysgu iaith y Maori te? they can all speak English, can't they?


Mi fyswn i'n rhoi go ar ddysgu ychydig, ond fyswn i'n gallu gwneud yn hamddenol gan yn byswn yn gallu byw o ddydd i ddydd heb fod yn rhugl. Os fyswn i'n byw yn sgandnafia fysa rhaid i mi ddysgu'r iaith yn go sydyn. Nid fod hynna yn beth drwg, ond debyg fuasai'n eitha anodd ymdopi yn gymdeithasol nes meistroli'r iaith leol.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 08 Rhag 2003 3:31 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:Felly dwi am ddeud fan'na - sef ynys hyfryd yng nghanol yr Indian Oshan (beth yw hyni yn Gym-raeg?...cofio'r joc shit 'na?)


Cefnfor India. A doedd y joc ddim yn shit. MEL!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 08 Rhag 2003 3:42 pm

Sbot on Wahanglwyf.

teimlo'n thic wan.. dio mor syml a hynny yndi?!

ella ai'n ol i olygu fo, a pheidio gofyn y cwestiwn o gwbl, a fydd pawb fatha "eh, be ffwc ma GDG on abowt?" Ond ella ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron