Oes yna un wlad/dinas rydych wedi ymweld â hi a byddech yn dychwelyd yno fory nesaf?
Cefais i fy rhyfeddu yn Azerbaijan ac rwy'n credu fod y rhan yna o'r byd yn ofnadwy o ddifir.
eusebio a ddywedodd:Mae'n rhaid i mi ddweud nad oeddwn erioed wedi bod eisiau ymweld ag America.
Ond wedi Cymru drefnu gêm gyfeillgar yn erbyn America yn San Jose, treuliais wythnos yn San Francisco - uffar o le braf - a cefais fy siomi ar yr ochr orau.
nicdafis a ddywedodd:eusebio a ddywedodd:Mae'n rhaid i mi ddweud nad oeddwn erioed wedi bod eisiau ymweld ag America.
Ond wedi Cymru drefnu gêm gyfeillgar yn erbyn America yn San Jose, treuliais wythnos yn San Francisco - uffar o le braf - a cefais fy siomi ar yr ochr orau.
Oedd San Francisco un o'r uchalbwyntiau i mi hefyd, pan es i draw 'na. O'n i'n ffeindio'r Americanwyr yn gyfeillgar iawn, a SF un o'r dinasoedd pertaf dw i wedi bod ynddi (nid mod i wedi bod mewn llawer).
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai