Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 1:17 pm
gan Hogyn o Rachub
Y Preseli. Rhan hyfryd iawn o'r wlad.

Heblaw hynny, Ffrainc a Cyprus. Ac Loch Ness.

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 5:25 pm
gan fela mae
Ynys Enlli - bues i yna ryw bedair blynedd yn ol ar ddiwrnod braf o haf !! Lle da am heddwch... a gan bo fi heb fod dramor lot - ron in teimlo fel bod fi ar ryw ynys yn bell bell i ffwr o gymru fach !!

Re: Fydde chi'n mynd yn ôl?

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2003 9:20 pm
gan eusebio
eusebio a ddywedodd:Cefais i fy rhyfeddu yn Azerbaijan ac rwy'n credu fod y rhan yna o'r byd yn ofnadwy o ddifir.


Woohooooo!!
Ni'n mynd nôl i Baku :D

PostioPostiwyd: Llun 08 Rhag 2003 12:01 pm
gan brenin alltud
Padova, Yr Eidal

Creta, Groeg

Gwesty 'Il Monastero' ym mhrif dre' ynys fach Ischia m'bell o Napoli. (Mae'r hen leiandy ar graig fawr ynghanol y mor i'w gweld yn y ffilm 'Talented Mr Ripley'. Tre' llawn o Eidalwyr yn mynd gyda'r teulu ar passeggiata gyda'r hwyr. Pizzas, celf, mynydd tân, traethau, Eidalwyr, ffrwythau, dafliad carreg o Vesuvio a Phompeii... :winc: )

Unrhyw le difyr sy'n dda am'i sgio. Swn i'm licio cael mynd i Ganada i sgio yn yr ardal Ffrengig...

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 10:12 pm
gan Madrwyddygryf
New York- Gwario blwyddyn yn byw yn Efrog Newydd. Ond diawch byddai yn gwneud blwyddyn arall yno. Lle anhygoel.

Mynd allan i East Village am fwyd, wedyn mynd am cwpl o beints yn White Horse Tavern.



:crio:

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 8:59 pm
gan Iago2
1: Ynys Enlli yn gwbl arbennig
2: Amrwy fannau yn yr Eidal
3: Cerdded llwybr y pererinion o St Jean Pied de Port (de Ffrainc) ..dros y Pyrenees a heibio Ronsyfal, Pamplona, Burgos, Leon a draw i Santiago da Compostella.