Tudalen 5 o 5

PostioPostiwyd: Sad 27 Rhag 2003 1:05 am
gan garynysmon
barddofydd a ddywedodd:llangefni - cachdre. ma mynd mewn i un o'r tafarne fel mynd i mewn i hen saloon yn y wild west gyda'r dryse bach ................ :crechwen:


Dwi'm yn meindio LLangefni, er mod i'm yn mynd yna yn aml iawn. Ond ella fod hynny yn dweud mwy am y ffaith mid i yn dod o Sir Fon, na dim arall.

Llansantffraid oedd un lle doeddwn i'm yn licio. Stopio yna am beint ar y ffordd lawr i'r Steddfod. Dechrau siarad Cymraeg yn eu tafarn nhw ag roeddwn yn teimlo'n eitha annifyr yna, gyda pawb yn ymddwyn yn sych iawn mae rhaid dweud.

Noson allan yn Gaernarfon ydi rhywbeth arall fyswn i'n gorfod cysidro yn ddwys cyn gwneud eto.

faliraki

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2004 5:44 pm
gan Y Celt Cymraeg
Madrwyddygryf a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:Falaraki. Unwaith yn ddigon i wybod gwell.


Hwyrach bo fi wedi dweud hyn o blaen ar y Maes. Roeddwn yn mynd ar wyliau i Rhodes ac mynd ar fys i resort ni pan aeth y bws trwy Falaraki. Y rep gwyliau yn dweud i ni gyd.
" You don't want to go to Falaraki....................ever"


Faliraki yn brill!! es i yno am fythefnos, ar ben fy hun!!!

Re: faliraki

PostioPostiwyd: Sad 31 Ion 2004 10:22 pm
gan Madrwyddygryf
Y Celt Cymraeg a ddywedodd:
Faliraki yn brill!! es i yno am fythefnos, ar ben fy hun!!!


Ti'n person dewr iawn Celt. Sydd ddaru di gwneud hynny ?