Mai'n flwyddyn yn ôl ers i mi fod digon lwcus i fod yno [Mi aeth Chwadan, Branwen Llewellyn a fi yno hefo criw o ryw 20 o bobl ifanc y pentre].
Mae'n un lle y dylse pob Cymro fanteisio ar fynd yno, mae o'n wir yn ddarn coll o Gymru fel mae nhw'n i ddweud.
Yn gynta, mae yna lwyth o bobol sy'n siarad Cymraeg, a ma nhw'r bobl fwya croesawgar erioed. Er bo genyn nhw bron ddim pres bellach yno, ma'u haelioni nhw yn ddi-ddiwedd.
Yn ail, ma'r hanes sy'n bodoli yno yn anhygoel. Mae'r Cymreictod mor amlwg yno weithiau nes mae'n teimlo fel cerdded ar hyd stryd Llanuwchllyn neu Ddolgellau. Mi oedd na bobol bach hollol random yn ein cyfarch ni hefo 'Bore Da' wrth i ni basio nhw ar y stryd mewn Crysau Cymru - hollol amesing.
Yn drydydd, ma'r tirwedd a'r golygfeydd hefyd yn styning. Ma'r mynyddoedd o gwmpas Esquel hefo'r eira a ballu yn cymyd anadl rhywun. Ma'r llynoedd a'r coedwigoedd fel bod mewn stori tylwyth teg. Ac ar ol croesi'r paith i Gaiman, ma'r tirwedd mor wahanol - fel bod mewn dau ran hollol wahanol o'r byd.
Mi soniai fwy rwbryd.
Rhywun arall wedi bod yno?