Madrwyddygryf a ddywedodd:Wel roedd Arthur Conan Doyle wedi cael syniad am 'The Lost World' ar ol bod yn Patagonia.
Leusa a ddywedodd:Mi oedd na ddisgo neu ddawns, ac mi oedd pawb yn dawnsio, ac yn gallu dawnsio hefyd!
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Chatwin hefyd. Ganol darllan ei lyfr o am Batagonia rwan, ma'n dda iawn chwara teg, yn arbennig y darna am Butch a Sundance.
Deu gwir mi nath y Cymry droi allan i fod yn dirfeddianwyr cyn waethed a unrhyw reolwyr ystad fan hyn. Ffycin brodorion Araucanian wedi cael eu sgubo ffwr, a'r pobol o dras Sbaeneg yn "peon" tlawd. Da ni ddim yn hollol bur a chyfiawn ni Gymry, pam da chi'n medwl fod cymaint o bobol ddu yn America efo cyfenw Jones? Achos roedd ein cyndeidiau'n rhoi enw teulu i'w caethweision.
Neis da ni de.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai