Tudalen 1 o 1

Prifddinas Catalunya

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 1:08 pm
gan Angharad
Dwi, Chicken Lips, Chgodan, MM, Do reu mi a Nick Urse ymysg eraill yn mynd i Farcelona dros nos Galan leni - oes gan unrhyw un syniada am lefydd difyr a gwahanol i fynd am ddrinc/boogie/bwyd?

Wedi bod yno sawl gwaith fy hun ac ma na lefydd cwl yna - bar 'absenta' llychlyd llawn locals, clwb efo martinis a maffia go-iawn, lle coffi gora'n y byd....

rhowch i mi awgrymiada rhowch i mi gyfarwyddiada, rhowch i mi beint o'r cwrw gora



ho siento :winc:

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 12:40 pm
gan Mihangel Macintosh
Barcelona! Check it out! Check it out!

Dyma lun o glwb Razzamatazz yn Barca lle fydd Cian SFA yn DJ'io noson calan.

Delwedd

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 12:51 pm
gan Colm
edrych yn shit hot. swni wrth y modd yn dod hefo chi ond ma BUCK$ yn brin manai ofn. os ddof ar draws lwc neu geffyl anarferol o chwim mi fyddai yno.

Bar Celona!

PostioPostiwyd: Iau 11 Rhag 2003 9:22 pm
gan Gwalch Bach
Colm, rho niwc lawr ar Rocetnynhini 3.15 yn Niwmarcet fory, ten-tw-won, syrt. Sa Gaudi'n browd....! :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 04 Chw 2005 1:43 pm
gan Glewlwyd Gafaelfawr
Basen i'n hoffi mynd i weld Barcelona yn chwarae yn y Nou Camp.
oes unrhyw un yn gwybod os fyddai gan rhywun nad yw'n socio neu aelod o'r clwb siawns o gael tocyn ar gyfer gem gynghrair, neu hyd yn oed gem Cynghrair y Pencampwyr?
Mae adran docynnau ar y wefan fcbarcelona.com, ond ma fe i gyd yn Sbaeneg.
Dwi'n gwybod ei bod yn bosibl cael tocynnau ar we gan gwmniau teithio, ond maent yn ddrud iawn.
Byddaf yn ddiolchgar am unrhyw gyngor call.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Chw 2005 1:52 pm
gan Mr Gasyth
aeth ffrindiau i mi i barcelona a mynd i weld gem. naethon nhw jest prynu'r tocynau ar ol cyrraedd yn y stadiwm - dim problem. ond gwylia rhag eistedd rhy uchel yn y stadiwm - mae o mor uchel a serth mi gachodd un ei bants yn llythrenol.

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2005 12:37 pm
gan Dewyrth Jo
Glewlwyd Gafaelfawr a ddywedodd:Basen i'n hoffi mynd i weld Barcelona yn chwarae yn y Nou Camp.
oes unrhyw un yn gwybod os fyddai gan rhywun nad yw'n socio neu aelod o'r clwb siawns o gael tocyn ar gyfer gem gynghrair, neu hyd yn oed gem Cynghrair y Pencampwyr?
Mae adran docynnau ar y wefan fcbarcelona.com, ond ma fe i gyd yn Sbaeneg.
Dwi'n gwybod ei bod yn bosibl cael tocynnau ar we gan gwmniau teithio, ond maent yn ddrud iawn.
Byddaf yn ddiolchgar am unrhyw gyngor call.

Gna'n siwr bod hi ddim yn gem rhy fawr a byddi di'n iawn. Doedd na'm llawar o seti gwag i'w gweld yno neithiwr ar gyfer gem Atletico Madrid. Ond fel arfer ond tua 60-80,000 sy'n mynd i weld gema felly digon o seti gwag.

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2005 2:54 pm
gan Cwlcymro
Does gentim siawns gweld gem Cyngrair y Pencampwyr yna (onibai fod nhw mewn grwp efo rhyw dim bach bach y flwyddyn nesa). Paid a mynd pan ma na gem fawr ymlaen (e.g. Valencia, Espanyol ac yn enwedig Real, does nam gobaith mul o docyn i Barca v Real yn a Camp Nou)

Ma'r sdadiwm yn dal rhyw 90,000 a ma na 125,000 o docyna tymor yn cael ei gwerthu bob blwyddyn (!)