Inter-reilio

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Inter-reilio

Postiogan Geraint » Maw 09 Rhag 2003 10:26 pm

Fi a rhai ffrindie wedi bod yn trafod y posibilrwydd o inter-reilio rownd rhai o ddinasoedd Ewrop. Rhywun di neud hwn o'r blaen? Syniad yn wych, mynd i Amsterdam, Prague, Rhufain, Barcelona, Paris er engrhaifft. Dwi wedi cael fy siomi o edrych ar y prisiau ar ywe-fan, drud, a ma'r 'zones' yn cyfyngu'n fawr ar be ellw chi wneud. Unrhyw sylwadau/awgrymiadau am wibdaith ar dren o Ewrop?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 09 Rhag 2003 10:45 pm

Oeddwn ni yn gobeithio inter-reilio o gwmpas Ewrop ond yn y diwedd, penderfynais mynd i Ariannin yn lle.

Penderfyniad da dwi'n meddwl
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan TXXI » Mer 10 Rhag 2003 1:42 am

Fe wnes i hyn yn haf 2001 cyn dod i'r coleg. Nes i gal tocyn 2 zone am rhyw £180. Hedfan i Madrid (tua £40 easyJet) yna trafeilio i Valencia, Barcelona, yna penderfynu mynd i ffrainc. gofyn am dren i paris-dim, tren i nice-dim unig dren oedd yn mynd i ffrainc yn stopio ar y ffin-hon oedd noson orau fy nhrip. cyrraedd y dref ar yr arfordir - dim mwy o drenau felly cysgu ar y traeth gyda gig awyr agored yn mynd mlaen yr un pryd-gwych! eniwe yna mynd i nice, lyon, dijon, paris, peint yng ngwlad belg a gorffen yn amsterdam! mae'r tocyn werth pob ceiniog!!! Am drafeilio o gwmpas de america wedi i mi orffen coleg flwyddyn yma!
Ymgyrchwch dros ail-ddyfodiad y Cythral! Plis.

gwefan i fyfyrwyr cymraeg clefar
Rhithffurf defnyddiwr
TXXI
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 12:20 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan eusebio » Mer 10 Rhag 2003 11:08 am

Nes i hyn pan yn y coleg, ond yr adeg hynny roedd un tocyn yn caniatau rhywun fynd trwy holl wledydd Ewrop (a Morocco).

Ym 1989 bues i yn yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Denmarc, Tsecoslofacia (fel ac yr oedd), Awstria, Bwlgaria, Romania, Hwngari, Swistir, Yr Eidal a Ffrainc - i gyd mewn 4 wythnos!

Ym 1990 wedi teithio dros y lle penderfynais fynd yn ôl i'r Almaen, Hwngari, Swistir a'r Eidal am fwy o 'leisurely stroll'!!

Gwych o beth i'w wneud yn y dyddie hynny - troi i fyny mewn gorsaf drennau a jyst cymryd tren i lle bynnag oedd yn mynd â'r ffansi ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Cardi Bach » Mer 10 Rhag 2003 11:37 am

Syniad gwych Bu i'n whar i neud hynny rai blynyddoedd yn ol a chal tocyn 2 zone yn gymharol rhad. Ath hi o'r Almaen lawr i'r Dalmation Coast a gweud mai y Dalmation Coast odd un o'r llefydd prydfertha iddi ymweld a hi (ma ddi wedi bod ar hyd y byd i gyd, cred ti fi!).

Wy'n gobeitho neud hyn yn hwyr neu hwyrach, a mynd draw i ddwyrain Ewrop.

Rho wybodaeth am dy drip os ceu di amser Ger.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan eusebio » Mer 10 Rhag 2003 11:55 am

Os ti'n mynd i Ddwyrain Ewrop, rho floedd Cardi.
'Dwi wedi teitio cryn dipyn tu ôl i'r hen len haearn yn ddiweddar.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Mer 17 Rhag 2003 11:10 am

Geraint - dwi wedi bod yn edrych ar y safle we - oes gen ti syniad i pa wledydd yr hoffet ti fynd?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Geraint » Mer 17 Rhag 2003 11:32 am

Ffrainc, Iseldiroedd, Spaen, Tsiec ar Eidal bydde'n ideal, ond ma hynna tua 5 zone. falle fydd rhaid torri allan spaen, prague neu'r eidal.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan eusebio » Mer 17 Rhag 2003 11:41 am

Geraint a ddywedodd:Ffrainc, Iseldiroedd, Spaen, Tsiec ar Eidal bydde'n ideal, ond ma hynna tua 5 zone. falle fydd rhaid torri allan spaen, prague neu'r eidal.


Hmmmm! Alli di ddim fod wedi dewis gwledydd sydd yn disgyn yn yr un 'zone'? ;)

Yn bersonol, mae'n well o lawer gen i wledydd Dwyrain Ewrop. Maent mor wahanol ac llawer mwy diddorol.
Tydw i ddim yn ffa mawr o Ffrainc, nac o'r Eidal chwaith a bod yn onest!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Mer 17 Rhag 2003 11:48 am

Zones B, D ac H fyddwn i'n ymweld â hwy eto.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron