gan eusebio » Mer 10 Rhag 2003 11:08 am
Nes i hyn pan yn y coleg, ond yr adeg hynny roedd un tocyn yn caniatau rhywun fynd trwy holl wledydd Ewrop (a Morocco).
Ym 1989 bues i yn yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Denmarc, Tsecoslofacia (fel ac yr oedd), Awstria, Bwlgaria, Romania, Hwngari, Swistir, Yr Eidal a Ffrainc - i gyd mewn 4 wythnos!
Ym 1990 wedi teithio dros y lle penderfynais fynd yn ôl i'r Almaen, Hwngari, Swistir a'r Eidal am fwy o 'leisurely stroll'!!
Gwych o beth i'w wneud yn y dyddie hynny - troi i fyny mewn gorsaf drennau a jyst cymryd tren i lle bynnag oedd yn mynd â'r ffansi ...