Beth am y 3 lle gore i fynd am dro/fod yng Nghymru.

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan bids » Llun 29 Rhag 2003 6:56 pm

lle arall hyfryd yw o drwyn yr asp (nash point) draw ar y llwybr i gyfeiriad coleg yr iwerydd, ac os o's amser da chi mlan o fan'na i aberogwr. mor bert.

morgannwg yw un o ardaloedd perta cymru, ac all neb 'mherswadio i o unrhywbeth arall -nid dim ond y gogledd sy'n hardd!
wilibawan
Rhithffurf defnyddiwr
bids
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Maw 11 Tach 2003 3:46 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Ramirez » Llun 29 Rhag 2003 10:13 pm

Ddim mewn trefn-

- Ynys Enlli- gwych

- Llanddwyn- methu coelio bod neb arall wedi enwi fama

- Mynydd Rhiw, Pen Llyn- gweld lawr dros Borth Neigwl


Haeddu mensh- Cwm Pennant, Steshon Bach Llanuwchllyn, Garn Fadryn, Cwm Idwal.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 29 Rhag 2003 10:18 pm

Dw i'n hoff iawn o Llyn Alaw. I fod yn blwyfol, mae mynyddoedd y Carneddau a Nant Ffrancon yn hyfryd 'fyd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan garynysmon » Llun 29 Rhag 2003 10:25 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i'n hoff iawn o Llyn Alaw. I fod yn blwyfol, mae mynyddoedd y Carneddau a Nant Ffrancon yn hyfryd 'fyd.


Dwi'n gweld Llyn Alaw o fy ffenest bob bore (neu p'nawn) pan dwi'n codi, pan dwi ar fy ngwylia o JMJ. Rwan i chi ddeud, ella fod na rywbeth da yn Llanddeusant wedi'r cwbl. :D
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 29 Rhag 2003 10:30 pm

Chwadan a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:1) Llynnoedd Cregennan a Phared y Cefn Hir a'r ardal yna lawr i Penmaenpwl (rhwng Arthog a Dolgellau).

:o Nes i anghofio am hwnna! Fy mhedwerydd dewis!

Ffwcin hel, a finna 'fyd. Un o'r llefydd mwya anghygoel o brydferth yng Nghymru. Biwti.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 30 Rhag 2003 12:36 am

Llanymawddwy heb os
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Chwadan » Maw 30 Rhag 2003 4:49 pm

Hmm ma hanner fy nheulu yn dod o Lanymawddwy. Dwi ddim yn rhy cin ar y lle deud y gwir, ma'r siop agosa 14 milltir i ffwrdd!!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan cymro1170 » Maw 30 Rhag 2003 6:04 pm

prynnu car ta de chwadan ;)
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Bethan517 » Maw 30 Rhag 2003 9:23 pm

Fyswn i'n dweud taw'r tri lle gorau i fod yng Nghymru yw:

*Trefin pan mae'r haul yn machlud, mae'r golygfeydd dros y clogwyni yn hyfryd. Lle rhamantus dros ben yn fy marn i!
*Sir Benfro - mynyddoedd dramatig, a golygfeydd gwerth eu gweld.
*Eryri - dwim yn meddwl bod yn rhaid i fi rhoi esboniad am y lle hwn, mae e jest yn ffantastig yn enwedig ar ddiwrnod clir!
Bethanxxx
Rhithffurf defnyddiwr
Bethan517
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 84
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 3:58 pm
Lleoliad: Aberdar, JMJ

Postiogan gronw » Mer 31 Rhag 2003 2:31 am

Chwadan a ddywedodd:Hmm ma hanner fy nheulu yn dod o Lanymawddwy. Dwi ddim yn rhy cin ar y lle deud y gwir, ma'r siop agosa 14 milltir i ffwrdd!!

Ddrwg gen i dorri ar draws gydag amherthnasoldeb (!), ond mae hanner, neu falle chwarter, fy nheulu i yn dod o Lanymawddwy hefyd. Does bosib bo ni'n perthyn Chwadan?! O wel, pwy wyr.

I ddychwelyd at y pwnc (o ryw fath), be sy mor wych am Lanymawddwy Rhys?
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai