Hogyn o Rachub a ddywedodd: mae mynyddoedd y Carneddau a Nant Ffrancon yn hyfryd 'fyd.
on i di anghofio am fanna! es i na ar drip gwaith maes daearyddieth unweth. do'n i ddim yn gallu credu bod y lle mor bert. lyshrwydd pur!
Hogyn o Rachub a ddywedodd: mae mynyddoedd y Carneddau a Nant Ffrancon yn hyfryd 'fyd.
gronw pebr a ddywedodd:Chwadan a ddywedodd:Hmm ma hanner fy nheulu yn dod o Lanymawddwy. Dwi ddim yn rhy cin ar y lle deud y gwir, ma'r siop agosa 14 milltir i ffwrdd!!
Ddrwg gen i dorri ar draws gydag amherthnasoldeb (!), ond mae hanner, neu falle chwarter, fy nheulu i yn dod o Lanymawddwy hefyd. Does bosib bo ni'n perthyn Chwadan?! O wel, pwy wyr.
I ddychwelyd at y pwnc (o ryw fath), be sy mor wych am Lanymawddwy Rhys?
Chwadan a ddywedodd:Pa ffermdy? Dwi'm yn nabod y bobl ond dwi di clywed am y ffermydd i gyd Ma nheulu i'n dod o Goedcae a Thy Canol, Llanymawddwy.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai