Beth am y 3 lle gore i fynd am dro/fod yng Nghymru.
Postiwyd: Maw 09 Rhag 2003 10:51 pm
Mae'n anodd oherwydd bod 'na lwyth of lefydd anhygoel yma ond os oes rhaid i fi ddewis neu gwynebu marwolaeth bendant 'swn i'n dweud,
1) Cwm Eleri - agos iawn felly does dim angen car felly peint hunanfoddhaol yn y Llew Gwyn ar y fford adre - cwm hyfryd tu hwnt hefyd.
2) Ynys Dewi (Ramsey yn Saesneg) - Fe es i ym mis Medi pan oedd y traethau'n llawn o morloi a'u pups (beth yw "seal pups" yn y Gymraeg?). Dydy'r dirwedd ddim wedi newid lot dros y flynyddoedd ac ro'n i'n teimlo fel y byd wedi stopio tra o'n i yno, arbennig iawn.
3) Glaslyn ger Dylife - mae'r byd yn edrych yn berffaith o fan'na.