1. Barafundle - dal ddim yn siwr shwd i sillafu enw'r lle - ond mae'r traeth milltiroedd o unman a'r daith dros y glogwyn i'w gyrraedd yn amazing, yn enwedig pan mae'n nosi a mae'r plant bach a'i bwcedi tywod di gadael. Rhywbeth rili chilled am y lle, oh petawn i yno nawr...
2. Cestyll Dryslwyn/Dinefwr/Carreg Cennyn - Sbin rownd y tri mewn prynhawn yn lyfli. Dryslwyn yw'n ffefryn i - rhywbeth am y ffaith fod e mor bitw. Allwch chi hyd yn oed poppo mewn i Llandeilo am ddisgled yn Fanny's wedyn!
3. Anodd dewis... ummm, fi'n groten Caerfyrddin yn y bon ac mae Llansteffan yn galw, ond, mae'n rhaid i fi fynd da llwybr arfordir sir Benfro. Tyddewi 'i hun yn lyfli/ Traeth Mawr/ Abereiddi/ Solfach... mae'r rhestr o lefydd hyfryd rhy hir.
God, ma meddwl am y llefydd 'ma'n rili evocative ond'yw... Beth yw'r ots gennyf fi am adeiladau hyll Newport Road! Hmmm