Dyffryn Ogwen - Rhaid iddo fod ar dop y list! Lle prydferth ar raddfa enfawr! Es i fyny cefnen Ogleddol Tryfan ddydd Sadwrn -digon i wneud calon i guro. (hy gwaith caled dringo a gorfod gwynebu drops mawr!)
Oce, mae'r Glyderau a Chwm Idwal reit fyny na, ond mae llwybr pedol yr Wyddfa (yn cynnwys Crib Goch) a'r Carneddau mawr anghysbell yn arbennig hefyd. Eira yn gwneud lluniau hyfryd.
Mae Cadair Idris a'r Mynydd Du (Caerfyrddin) werth gair hefyd.
Mae hi gyd yn fater o flas personol - dwi yn ffan mawr o fynyddoedd Eryri, mae well gan rhai yr arfordir.