Tudalen 1 o 8

Beth am y 3 lle gore i fynd am dro/fod yng Nghymru.

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 10:51 pm
gan dihiryn hawddgar
Mae'n anodd oherwydd bod 'na lwyth of lefydd anhygoel yma ond os oes rhaid i fi ddewis neu gwynebu marwolaeth bendant 'swn i'n dweud,

1) Cwm Eleri - agos iawn felly does dim angen car felly peint hunanfoddhaol yn y Llew Gwyn ar y fford adre - cwm hyfryd tu hwnt hefyd.

2) Ynys Dewi (Ramsey yn Saesneg) - Fe es i ym mis Medi pan oedd y traethau'n llawn o morloi a'u pups (beth yw "seal pups" yn y Gymraeg?). Dydy'r dirwedd ddim wedi newid lot dros y flynyddoedd ac ro'n i'n teimlo fel y byd wedi stopio tra o'n i yno, arbennig iawn.

3) Glaslyn ger Dylife - mae'r byd yn edrych yn berffaith o fan'na.

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 10:56 pm
gan Chwadan
1) Copa Cader Idris ar ddiwrnod clir - medru gweld Sir Benfro, pier Aberystwyth, pen draw Pen Llyn...:D

2) Y daith yn y car rhwng Dolgellau a Harlech ar ddiwrnod braf a ffenestri'r car i gyd ar agor a dim gormod dwrists yn gneud 15 mph o gwmpas (I wish).

3) Blaenau...dwnim pam :?

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 11:04 pm
gan Geraint
Mae na mor gymaint i ddewis o, anodd.

1. Rhaeadr Fawr, Abergwyngregyn. Y lle mwya hudolus yng Nghymru, lle da i eiste am orie.

2. Pen Dinas- Aberystwyth. Fy lle gore i wylio'r haul yn machlud, ar ben yr hen gaer ma, uwchben tref arbennig, yna lawr am beint neu ddeg!

3. Ar hyd llwybr arfordir Parc Cenedlaethol Sir Benfro- enwdig rownd Porthgain, lawr i Ty Ddewi. Gwyllt, ryff, prydferth.

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 11:33 pm
gan cymro1170
Llyn Stwlan ar ddiwrnod braf.
Fynnu heibio llyn Cwmorthin at Rhosydd a Llyn Adar.
fynnu'r inclen at Llyn Manod a lawr fordd arall.

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 11:40 pm
gan mred
1.Cytuno bod hanner gogleddol Llwybr Arfordir Penfro i lawr i Dŷ Ddewi yn arbennig. Mi'i dilynais ddechrau mis Hydref, a'r lloi morloi (dyna'r cyfieithiad yn ôl Bruce a Dafydd Glyn - ddim yn taro deuddeg) yn bell islaw yng ngwaelod y clogwyni. Does dim byd tebyg i aruthredd y tirlun ym Mhwll Deri.

2.Mynydd Bangor yn fy llecyn arbennig i, yn llygad yr haul efo tun seidar a phapur newydd. Lle mor wyllt efo golygfa ar draws canol y ddinas.

3.Pen y Gogarth yn yr haul yn edrych dros Fae Conwy, wedi seiclo yno. Mae'n hawdd iawn dianc rhag yr holl bobol ond i chi ddilyn y llwybr oddi allan i'r caeau yr ochr bellaf i'r copa. Wedyn neidio ar y trên a theithio adref am ddim, hei lwc.

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 12:01 am
gan Madrwyddygryf
1. Ar draws Pen y Cloddiau-Bryniau Clwyd. Yn arbennig pa mae pelydrau haul y taro trwy'r tyllau yn y cymylau.

2. Cerdded ar draws caeau llandaf a Pontcanna ar fachlud haul ar ol diwrnod diog a phoeth. Hydolus.

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 1:53 am
gan TXXI
1. Eryri (dim angen esboniad!)

2. Caernarfon (er cymaint dwi'n casau deud hyn! ond does ddim teimlad gwell na medru siarad cymraeg a gwybod eich bod am gael ateb yng nghymraeg hefyd! mae'n siwrbod llefydd eraill fel hyn yng nghymru ond yn anffodus dwi heb fod yno!)

3. Wrecsam (does dim lle fel adra fel ma nhw'n ei ddweud - a tydi pobl ddim yn gweld tu allan i'r dref. mae yna lefydd neis iawn e.e Erddig
"Wrexham's Erddig Hall - the UK's most favourite stately home after Chatsworth House" - http://www.bbc.co.uk/wales)

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 11:34 am
gan Cardi Bach
1) Llynnoedd Cregennan a Phared y Cefn Hir a'r ardal yna lawr i Penmaenpwl (rhwng Arthog a Dolgellau).

2) Dyffryn Tywi - o Garn Goch, Dyffryn Ceidrych, i Garreg Cennen a Dinefwr- Rhai o deithaiu cerdded hyfryta Cymry

3) Mynydd Du uwchben Gwynfe - er tegwch ma hwn yn clymu mewn a rhif 2 ac felly gellir dweud Dinefwr gyfan - o Landeilo, i Langadog, i Landdeusant, Llansadwrn, Myddfe, Trap, ar hyd y Sawdde lan Llyn y Fan Fawr a Fach, Trichrug.


so ma un lle arall gyda fi :P

Ynys Enlli siwr o fod. Biwt o le.

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 12:59 pm
gan Chwadan
Cardi Bach a ddywedodd:1) Llynnoedd Cregennan a Phared y Cefn Hir a'r ardal yna lawr i Penmaenpwl (rhwng Arthog a Dolgellau).

:o Nes i anghofio am hwnna! Fy mhedwerydd dewis!

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 1:07 pm
gan nerys
1-Glaslyn ger Dylife
2-Cwm nant yr Eira
3-Ar gopa'r Wyddfa, ac edrych lawr ar gwm Idwal