Tudalen 2 o 8

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 1:23 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Yr Wyddfa, yn sicr. Gallu gweld pob man ar ddiwrnod clir (medda nhw. Pob tro dw i 'di bod fyny mae'n blydi rhy niwlog i weld ffwc o'm byd)

2. Y llyn 'na tu-ôl i Ty Hyll, Betws Y Coed. Methu cofio'i henw nac wedi bod 'na am flynyddoedd, ond mae'n grêt!

3. Nantgwynant-Beddgelert. Ardal hyfryd.

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 1:42 pm
gan kamikaze_cymru
Cwm Dulyn

Chwarel Dorothea

ymmm, top un cwm pennant, diwedd y llwybr o nantlle, ma 'na chwarel ar y top, a golygfa fendigedig o gwm pennant.

am roi ambell un arall -

prom aber pan main ryff a'r tonnau'n neidio.

lan mor pontllyfni

pen llyn

efo'r bobl iawn ma unrhyw le yn lle da.

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 1:50 pm
gan Colm
Llanfaglan , Dinas Dinlle ac Yr Ofal ( mae'n lle da i fynd am dro, yn anffodus) :? sori

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 2:38 pm
gan Jeni Wine
Hogyn o Rachub a ddywedodd:2. Y llyn 'na tu-ôl i Ty Hyll, Betws Y Coed. Methu cofio'i henw nac wedi bod 'na am flynyddoedd, ond mae'n grêt!

3. Nantgwynant-Beddgelert. Ardal hyfryd.


Ath fi a gwynab wUw am dro i Lyn Geirionydd sy tu ol i Ty Hyll y dySul ar ol Sdeddfod leni am ffresh-er a bechdan wy ac wedyn i lawr am Nant Gwynant. Os barciwch chi'r car/beic/ceffyl wrth ymyl y lle glo wedyn dringo dros y giat rochor arall i'r lon a cherad am dipyn drwy'r caea yn dilyn swn nant y mynydd groyw loyw - yna, mi ddowch chi at wal gerrig. Dringwch hi a wele'r pwll bach dela'n y byd - dwr clir fel crishal a nant y mynydd yn ffrydio i mewn iddi. Nath o fyd o les i fy hangover jin i...

Wedyn dringwch yn uwch ac yn uwch ac mi welwch chi mai'r olaf mewn cyfres o byllau oedd y pwll bach cynta. Ma'r nant yn cychwyn o dop y mynydd ac yn mynd rholl ffor lawr gan adael pyllau bach ymhob man. Y peth aidial i neud ydi neidio i'r dwr a dilyn y pylla i lawr gan sleidio o un pwll i'r llall ar sleid o fwsog. Ma na un neu ddau sy'n ddigon dyfn i ddeifio i mewn iddo fo...mmmmmm... Lle nefolaidd.

O.N. Cofiwch *beidio* adal eich dillad nofio reit yn top fel nesh i agoro cerad nol fyny i'w casglu nhw - dyyyy.

Cwm Pennant "O, Arglwydd, paham y gwnaethost Gwm Pennant mor hardd(?)/A bywyd hen fugail mor fyr?"

Dinas Dinlla - nunlla tebyg iddo fo yn gaea pan sa neb o gwmpas a phan ma'r gwynt yn gwylltio'r mor ac yn rhuo yn dy glustia di a heli a gwallt ar draws dy ddannadd. Golygfa anfarwol o'r Eifl a'i chriw. Da ni'n mynd am dro no bob dydd Dolig a lluchio'n sgarffia i fyny i weld y gwynt yn mynd i'r afal efo nhw.

Tre'r Ceiri - lle aidial i fynd am dro cyn i gwn caer godi. Dwi'n teimlo mor fyw yn y boreua bach pinc rheini pan ma pawb arall yn cysgu'n sownd.

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 3:59 pm
gan Colm
Jeni Jeni. does dim diwedd i dy dueddiadau hipiaidd!

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 4:21 pm
gan fela mae
1. Ar ddiwrnod braf o haf - mynydd mawr aberdaron yn hyfryd o le i fod - picnic ar dop y mynydd wrth edrych lawr ar ynys Enlli ar y mor glas . Ond unrhyw le yn llyn yn le da i fynd !

2. cwrs golff capel Bangor.. stim byd gwell na cerdded rownd y cwrs yn yr haul braf.

3. Bedd Gelert

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 11:38 pm
gan Meg
Cerdded o gwmpas Croesor a'r Cnicht a Chwmorthin a Llynnoedd yr Adar ydi seren y sioe i mi, yn enwedig yn yr eira a'r awyr yn las a dim ôl traed pobol yn unlle, dim ond ambell lwynog neu gwningen.

Nefoedd ar y ddaear.

PostioPostiwyd: Iau 11 Rhag 2003 9:13 pm
gan Nick Urse
1. Ffynnon Cybi wrth droed Garn Bentyrch, Eifionydd yn yr hydref

2. Cwmgwared, ddim yn bell o Gurn Goch (ia, fel'a ma sbelio fo go iawn)

3. Copa Mynydd Enlli pan ma'r haul yn machlud efo potal o win coch

PostioPostiwyd: Sul 14 Rhag 2003 9:43 pm
gan Wierdo
Mynydd Carmel, Sir benfro, Tre Ceiri (Eifl)...ond mynydd carmel di gora....sar tip ddim tu cefn iddo sa gena ni'r fiw gara yn y byd i gyd.....syniad dwlpwy odd thoi hwnan fana?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 12:21 am
gan Huw T
Argh. Ma na lawer lawer gormod o ddewis.

1) Wedi cael ei ddweud yn bard, ond fe nai ymhelaethu - Pen Dinas uwchben Abeystwyth. Golygfeydd rhyfeddol dros y dref, dyffryn y Rheidol a Dyffryn yr Ystwyth. Ma unrhyw adeg yn neis i fod na. Bues i lan unwaith mewn gwers rydd o'r ysgol (!!!), ac unwaith pan odd hi wedi bwrw eira, ac rodd yr holl ardal yn wyn - hudol
Hefyd, traeth Tanybwlch, jyst o dan Pendinas, sy'n rhoi golygfa neis daw am y dre, ac ar hyd y mor. Ar wac arferol, byddai'n ymweld ar ddau fan :lol:

2) Y Mynnydd Du, wrth fod y wawr yn torri

3) Yr A44 rhwng y Ffin a Llywernog (ochr Aber o Bonterwyd), pan ma'r wawr yn machlud. Ma'r daith yn ddigon i ddod a deigryn i'r llygad, yn enwedig, dywed, os wyt tin dychwelyd ar ol 8 wythnos mewn prifysgol ar wastadedd undonog y Tafwys :winc: