Tudalen 3 o 8

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 11:20 am
gan DAN JERUS
Dwi'n hoffi dilyn trywydd yr hen reilffyrdd o amgylch Bl.Ffestiniog.Dwi'n hoffi mynd yn flynyddol (yn enwedig ar ol pum modfedd o eira!) heibio Llyn tanygrisiau a dilyn trywydd yr hen lwybyr cludo llechi am Maentwrog, gan basio hen hen adfeilion tai angof ar y ffordd.Mae'r golygfeydd yn odidog ac mae ambell i ddafad yn dweud "me!" yn ol os ydych yn eu cyfarch yn eu tafodiaith.Hen hogia iawn! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 12:29 pm
gan eusebio
Ynys Lawd ar gyrion Caergybi yw'r lle delfrydol i mi.
Mae gan yr RSPB dwr gwylio dros y môr a dros y clogwyni er mwyn gwylio adar y môr yn nythu ac mae'r daith i lawr at y goleudu (365 o steps) yn hyfryd.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 12:48 pm
gan Mr Groovy
Twyni a thraeth Ynys Las, ddim yn bell o Aberystwyth.

O Langland rownd y pwynt i'r Mwmbwls. (A wedyn neud "milltir Mwmbwls" tua 'nol i neud fyny am yr holl awyr iach yna)

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 12:52 pm
gan Geraint
Os gai ychwanegu mwy na fy nhri gwreiddiol............


Llyn Clywedog ar ddiwrnod clir. Unrhyw le uchel yn Sir Drefaldwyn ar ddiwrnod peoth clir, ellwch chi weld y bryniau gwyrdd o'ch gwmpas, ac yn y pelter, mynyddoedd tywyll.

Artists Valley, uwchben Ffwrnais yn hyfyrd, ffindies i Rhaeadr hyfyrd ar hap wth gwrydro o'r ffordd unwaith.


Ma sawl di deud Cwmorthin, ond buo chi rioed ochr arall i fynydd Allt fawr, ir Gogledd o Gwmorthin? Mae yna gwm enfawr, sy'n mynd lawr i Blaenau Dolwyddelan, pasio fferm o'r enw Nhadog Isaf. Hwn di'r lle mwy diarffordd, gwyllt, hynafol dwi rioed di bod i, llawn o gerrig, corsydd, llynoedd bach, a byth gweld neb arall o gwmpas. Hawdd oedd meddwl mod i nol mewn amser, tan i mi gyrraedd top Allt Fawr, a da chi reit uwchben chwarel enfawr llawn swn a prysurdeb.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 1:44 pm
gan Ifan Saer
Dechra' o Danygrisia', fyny Cwm Orthin a lawr am Croesor, a wedyn am Llanfrothen a peint yn y ring. Taith gerddad hyfryd yn wir, mewn cadarnle Cymreig.

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2003 5:27 pm
gan tafod_bach
1 tan y bwlch, aberystwyth (os ti'n teimlo'n enerjetic cer rownd pen dinas a lawr heibio'r traeth, gorffen yn rummers a chware who wants to be a millionaire tra'n gwrando ar aber jazzzz.)

2 penmon ac ynys seiriol. ma na bit, dwim yn gwbod be di'r enw arno fo, ella mai barclodiad y gawres ydio: o gyfeiriad rhosneigir lawr at y fenai am adra. iym.

3 gelli gandryll. pan ma'n dawel heb y gimps llyfra ymhobman.

s
x

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 3:46 pm
gan Stiniog
Y Moelwyn Mawr ar ddiwrnod clir, gallu gweld Penrhyn, Port a castell Harlech a castell Cricieth. Golygfa dda o'r Cnicht yna hefyd. Wedyn cerddad i lawr am Gwmorthin.

Mae Nantmor yn le braf hefyd a cerdded heibio'r chwarel gopor a trwy Beddgelert.

PostioPostiwyd: Sul 28 Rhag 2003 4:59 pm
gan Conyn
Ar ben y Cribarth ym mhen uchaf Cwm Tawe, edrych lawr y Cwm am Abercrâf i un cyfeiriad, a lan tua Glyntawe a Chraig y Nos ffordd arall.

Castell Coch ger Ystradfellte. Braidd yn oer yn y gaeaf, cofiwch, ond lle da i feddwl.

Ystrad Fflur.

PostioPostiwyd: Sul 28 Rhag 2003 7:57 pm
gan bids
ar hyd arfordir penfro ar ddwyrnod clir, twym o haf gyda digon o ddiod yn y bag i dorri syched. stopo ar y daith o hyd i edrych ar yr olygfa. styning!

coedwigeth hensol, bro morgannwg, pan ma hi'n ddwyrnod crisp o hydref a'r coed yn drwm o ddail amryliw a chi jyst moyn tro neis gyda'r ci.

a... lan constitution hill a draw i clarach i adel stress bywyd myfyriwr tu cefen i chi!

PostioPostiwyd: Llun 29 Rhag 2003 6:22 pm
gan dickiedavies
Pen y Fan

a Phorth yr Ogof, ar bwys Ystradfellte. Trowch off yr A470 ar ôl pasio Merthyr etc etc.

Fucking magic, bois bach. Fucking magic.

Ac un yn y gogledd - y coed tu ôl i Plas Tan y Bwlch yn Maentwrog. Neu ar hyd afon Dwyryd i edrych am fedd Pryderi o'r Mabinogs, ar bwys y Felan Rhyd. Ysblennydd.