Tudalen 4 o 8
Postiwyd:
Llun 29 Rhag 2003 6:56 pm
gan bids
lle arall hyfryd yw o drwyn yr asp (nash point) draw ar y llwybr i gyfeiriad coleg yr iwerydd, ac os o's amser da chi mlan o fan'na i aberogwr. mor bert.
morgannwg yw un o ardaloedd perta cymru, ac all neb 'mherswadio i o unrhywbeth arall -nid dim ond y gogledd sy'n hardd!
Postiwyd:
Llun 29 Rhag 2003 10:13 pm
gan Ramirez
Ddim mewn trefn-
- Ynys Enlli- gwych
- Llanddwyn- methu coelio bod neb arall wedi enwi fama
- Mynydd Rhiw, Pen Llyn- gweld lawr dros Borth Neigwl
Haeddu mensh- Cwm Pennant, Steshon Bach Llanuwchllyn, Garn Fadryn, Cwm Idwal.
Postiwyd:
Llun 29 Rhag 2003 10:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Dw i'n hoff iawn o Llyn Alaw. I fod yn blwyfol, mae mynyddoedd y Carneddau a Nant Ffrancon yn hyfryd 'fyd.
Postiwyd:
Llun 29 Rhag 2003 10:25 pm
gan garynysmon
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i'n hoff iawn o Llyn Alaw. I fod yn blwyfol, mae mynyddoedd y Carneddau a Nant Ffrancon yn hyfryd 'fyd.
Dwi'n gweld Llyn Alaw o fy ffenest bob bore (neu p'nawn) pan dwi'n codi, pan dwi ar fy ngwylia o JMJ. Rwan i chi ddeud, ella fod na rywbeth da yn Llanddeusant wedi'r cwbl.
Postiwyd:
Llun 29 Rhag 2003 10:30 pm
gan Rhodri Nwdls
Chwadan a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:1) Llynnoedd Cregennan a Phared y Cefn Hir a'r ardal yna lawr i Penmaenpwl (rhwng Arthog a Dolgellau).
Nes i anghofio am hwnna! Fy mhedwerydd dewis!
Ffwcin hel, a finna 'fyd. Un o'r llefydd mwya anghygoel o brydferth yng Nghymru. Biwti.
Postiwyd:
Maw 30 Rhag 2003 12:36 am
gan Rhys Llwyd
Llanymawddwy heb os
Postiwyd:
Maw 30 Rhag 2003 4:49 pm
gan Chwadan
Hmm ma hanner fy nheulu yn dod o Lanymawddwy. Dwi ddim yn rhy cin ar y lle deud y gwir, ma'r siop agosa 14 milltir i ffwrdd!!
Postiwyd:
Maw 30 Rhag 2003 6:04 pm
gan cymro1170
prynnu car ta de chwadan
Postiwyd:
Maw 30 Rhag 2003 9:23 pm
gan Bethan517
Fyswn i'n dweud taw'r tri lle gorau i fod yng Nghymru yw:
*Trefin pan mae'r haul yn machlud, mae'r golygfeydd dros y clogwyni yn hyfryd. Lle rhamantus dros ben yn fy marn i!
*Sir Benfro - mynyddoedd dramatig, a golygfeydd gwerth eu gweld.
*Eryri - dwim yn meddwl bod yn rhaid i fi rhoi esboniad am y lle hwn, mae e jest yn ffantastig yn enwedig ar ddiwrnod clir!
Postiwyd:
Mer 31 Rhag 2003 2:31 am
gan gronw
Chwadan a ddywedodd:Hmm ma hanner fy nheulu yn dod o Lanymawddwy. Dwi ddim yn rhy cin ar y lle deud y gwir, ma'r siop agosa 14 milltir i ffwrdd!!
Ddrwg gen i dorri ar draws gydag amherthnasoldeb (!), ond mae hanner, neu falle chwarter, fy nheulu i yn dod o Lanymawddwy hefyd. Does bosib bo ni'n perthyn Chwadan?! O wel, pwy wyr.
I ddychwelyd at y pwnc (o ryw fath), be sy mor wych am Lanymawddwy Rhys?